Neidio i'r prif gynnwy

 

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i roi gwybodaeth i ymwelwyr, cleifion, staff a gofalwyr sy’n defnyddio’r Canolfan Gwybodaeth a Chymorth Macmillan, Ysbyty Athrofaol Cymru.  Bydd angen i wirfoddolwyr fod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn barod i gwblhau hyfforddiant.

Bydd angen i wirfoddolwyr fod ar gael am o leiaf 2 awr yr wythnos (o ddydd Llun i ddydd Gwener) a gallu ymrwymo i o leiaf 6 mis o waith gwirfoddol gyda ni.

Bydd angen i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i wneud cais am y rôl hon.

Lawrlwythwch ddisgrifiad swydd i gael rhagor o wybodaeth:

Canolfan Gwybodaeth a Chymorth Macmillan, Ysbyty Athrofaol Cymru

 

Darllenwch y Canllawiau Ymgeisio ar y dudalen we cyn gwneud cais am y rôl hon.

Ewch i dudalennau gwe’r Ganolfan Wybodaeth i gael rhagor o fanylion.

 

Cais trwy ein dolen porth ymgeisio!

Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais, neu gefnogaeth bellach i wneud y broses recriwtio’n fwy hygyrch i’ch anghenion, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Gwirfoddol i drafod sut allwn ni eich helpu

E-bost: Volunteer.enquiries.cav@wales.nhs.uk 

Ffon: 029 218 45692

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.