Wroleg yw'r gangen feddygaeth sy'n ymdrin â rheolaeth lawfeddygol clefydau'r arennau a rheolaeth lawfeddygol a meddygol cyflyrau'r brostad ac wro-genhedlol gwrywaidd. Mae wrolegwyr hefyd yn ymdrin â phroblemau'r bledren mewn dynion a menywod.
Yr hyn a gynigiwn
Mae'r Adran Wroleg yn ymdrin â:·
- Gwneud diagnosis o ganserau'r brostad, y bledren, y ceilliau, yr arennau a'r pidyn, a'u trin.
- Triniaethau meddygol a llawfeddygol ar gyfer helaethiad anfalaen o'r brostad.
- Triniaethau meddygol a llawfeddygol o gyflyrau'r bledren weithredol, gan gynnwys anymataliaeth mewn menywod.
- Triniaeth ar gyfer clefyd cerrig y llwybr wrinol.
- Niwrowroleg.
- Rhwystr arennol, gan gynnwys methiant arennol rhwystrol.
- Androleg, gan gynnwys anffrwythlondeb gwrywaidd ac anhawster codiad.
Mae'r gweithdrefnau arbenigol a gynhelir yn yr adran yn cynnwys:
- Prostadectomi radicalaidd ar gyfer canser cynnar y brostad.
- Systectomi ac adlunio'r bledren yn orthotopig ar gyfer canser y bledren.
- Llawdriniaeth tiwmorau arennol sy'n cynnwys y vena cava isaf gan ddefnyddio dargyfeirio cardio-pwlmonaidd.
- Llawdriniaeth retroperitoneal ar gyfer canser datblygedig y ceilliau.
- Adlunio'r bledren ar gyfer pledren orweithredol niwropathig ac an-niwropathig.
- Mewnblannu sffincter wrinol artiffisial.
- Neffrectomi laparosgopig.
- Lithotripsi siocdonnau ar gyfer clefyd cerrig y llwybr wrinol.
- Wrodynameg.
Clinig Cleifion Allanol
Sut i'n cyrraedd ni
Yr Adran Cleifion Allanol, Ystafell 18, Llawr Gwaelod Uchaf
- O gyntedd y brif fynedfa, y llawr gwaelod isaf.
- Dilynwch yr arwyddion ar gyfer wardiau a'r Adran Cleifion Allanol ar y llawr gwaelod (cerddwch i fyny'r grisiau neu teithiwch yn y lifft i'r llawr gwaelod).
- Cerddwch i lawr y coridor yn syth i'r Adran Cleifion Allanol, trowch i'r dde a dilynwch yr arwyddion ar gyfer ystafell 18.
- Cyflwynwch eich hun i'r derbynnydd wrth y ddesg.
Derbyn Cleifion Mewnol
Mae cleifion fel arfer yn cael eu derbyn gyda chyflyrau sy'n gofyn am y canlynol:
- Prostadectomi radicalaidd
- Neffrectomi radicalaidd
- Systectomi radicalaidd
- Neffrectomi laparosgopig
- Adlunio'r bledren
- Dyraniad nod lymff retroperitoneal
- Llawdriniaeth cerrig arennol drwy'r croen
- Echdoriad trawswrethrol y brostad