Neidio i'r prif gynnwy

Uned Achosion Brys Pediatrig

Yr Uned Achosion Brys Pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw'r uned achosion brys fwyaf sy’n benodol ar gyfer plant o dan 16 oed yng Nghymru.

Gan weld dros 35,000 o blant a'u teuluoedd bob blwyddyn, mae'r Uned Achosion Brys Pediatrig yn ymrwymedig i ddarparu gofal o'r radd flaenaf. Mae'r gwasanaeth yn darparu gofal a thriniaeth frys i blant rhwng 0 a 15 oed ar gyfer yr ystod lawn o gyflyrau clinigol, gan gynnwys salwch meddygol, problemau iechyd meddwl a mân anafiadau hyd at drawma mawr.

Yn 2020, penodwyd Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC), Caerdydd yn ganolfan Pediatrig Trawma Mawr ar gyfer De Cymru, gan ddarparu gofal i'r plant â’r anafiadau mwyaf difrifol o bob rhan o'r rhanbarth. Ers hynny, rydym wedi darparu gofal i dros 120 o blant y flwyddyn drwy Rwydwaith Trawma De Cymru, yn ychwanegol at y plant hynny sy'n ddifrifol wael ac wedi'u hanafu sy'n cael eu cludo i'r ysbyty drwy Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).

Mae'r Uned Achosion Brys Pediatrig yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn darparu gofal pediatrig brys. Mae'r tîm yn cynnwys meddygon ymgynghorol arbenigol, meddygon iau, timau nyrsio pediatrig a chynorthwywyr gofal iechyd. Cefnogir yr Uned Achosion Brys Pediatrig gan dîm rheoli ac arwain profiadol yn yr Uned Achosion Brys a'r Bwrdd Clinigol Meddygaeth ac rydym yn gweithredu mewn partneriaeth agos â'r Adran Achosion Brys Oedolion yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gyda llawer o aelodau'r tîm yn gweithio ar draws timau oedolion a phediatrig.

Dilynwch ni