Neidio i'r prif gynnwy

Adborth Cleifion

Fel tîm rydym wedi ymrwymo i fodloni gwerthoedd y GIG sef yr egwyddorion sylfaenol sy'n arwain y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae'r gwerthoedd hyn yn cynnwys:

  • Ymddiriedaeth
  • Parch
  • Uniondeb
  • Gofal
  • Caredigrwydd
  • Cyfrifoldeb Personol

Mae'r gwerthoedd hyn yn hanfodol i greu diwylliant lle mae cleifion yn cael eu rhoi yn gyntaf ym mhopeth y mae'r GIG yn ei wneud. Er mwyn i ni gyflawni'r nodau hyn, rydym yn croesawu adborth i'n galluogi i wneud y gorau o'n perfformiad a chaniatáu ar gyfer newidiadau mewn arfer trwy welliannau i wasanaethau, twf ac atebolrwydd. 

Sganiwch y cod QR neu cliciwch ar y ddolen isod i roi adborth. Fel arall, siaradwch ag aelod o'n tîm i gael ffurflen adborth.

Profiad y Claf ar gyfer Maeth Parenterol – Ffurflen wedi'i llenwi ymlaen llaw

Diolch am eich amser!

Yr hyn mae pobl wedi'i ddweud am ein gwasanaeth -

Adborth cleifion 1

  Dw i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol pe bai cyfarfodydd y gallai pobl yn yr un sefyllfa eu mynychu fel nad ydym yn teimlo ein bod ar ein pennau ein hunain. Byddai hyn o gymorth in hiechyd meddwl.

Adborth cleifion 2

  Rwy'n teimlo bod y gwasanaeth ar y penwythnos wedi darparu cefnogaeth ragorol i gleifion HPN. Mae gwybod bod rhywun sy'n gyfarwydd â'ch pecyn gofal, y gallwch siarad â nhw ar y penwythnos, yn rhoi mwy o hyder i chi fod cefnogaeth ar gael os oes angen.

Adborth Cleifion 3

  Maen nhw i gyd wedi bod yn hollol anhygoel wrth fy nghefnogi yn ystod fy antur 'Broviac'!  Mae popeth wedi cael ei egluro'n glir a rhoddwyd llawer o sicrwydd ganddyn nhw i gyd pan oedd ei angen arnaf ar adegau.  Diolch i chi gyd!

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni