Cyflyrau a Welir
- Toresgyrn
- Anafiadau i dendonau
- Anafiadau i nerfau / cyflyrau'r nerfau
- Anafiadau i feinwe feddal
- Syndrom poen rhanbarthol cymhleth
- Osteoarthritis
- Arthritis rhiwmatoid (atgyfeiriad gan feddyg ymgynghorol yn unig)
- Llawdriniaethau dewisol
Gwasanaethau a Ddarperir
- Gosod sblintiau – dynamig a statig
- Asesu ystod symud a phŵer
- Rheoli creithiau ac oedema
- Rhaglenni ymarfer corff unigol a rhaglenni seiliedig ar weithgareddau - ystod symud a chryfhau
- Ailaddysgu / Dadsensiteiddio Synhwyraidd
- Ymarfer cyfrifiadurol y breichiau
- Cyngor gweithredol - cyngor ar gyfarpar addasol
- Cyngor ergonomeg a strategaethau ymdopi
- Grwpiau – Ymdopi ag Osteoarthritis/ Ymdopi ag Arthritis Rhiwmatoid
Atgyfeiriadau
Rydym yn gallu derbyn atgyfeiriadau gan Feddygon Ymgynghorol, Meddygon Teulu, Ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol.