Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Lleferydd ac Iaith (Oedolion)

Mouth

Cynigiwn ystod eang o wasanaethau cleifion mewnol, cleifion allanol a chymunedol i oedolion ag anawsterau cyfathrebu a llyncu ledled Caerdydd a'r Fro.

Gyda phwy ydyn ni'n gweithio?

Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn gweithio gydag oedolion sydd â phroblemau cyfathrebu a/neu fwyta a llyncu sy'n gysylltiedig â:

  • strôc
  • anaf pen
  • clefyd Parkinson
  • Clefyd Niwronau Motor
  • dementia
  • canser y pen, y gwddf a'r llwnc (gan gynnwys laryngectomi)
  • problemau llais
  • anableddau corfforol
  • atal dweud (diffyg rhuglder)
  • anhwylderau iechyd meddwl
  • anhwylderau niwrolegol eraill
  • anhwylderau dirywiol eraill

Gweithiwn yn aml mewn timau amlddisgyblaethol a gweithiwn yn agos gyda theuluoedd, gofalwyr ac eraill sy'n ymwneud â'r unigolyn. 

Mae rhai therapyddion yn yr Adran sy'n gallu darparu therapi drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Cadw Fi’n Iach

Mae Cadw Fi’n Iach yn adnodd digidol sydd wedi cael ei ddatblygu i gefnogi cleifion ar draws Caerdydd a’r Fro i hunanreoli cyflyrau parhaus, adsefydlu a gwella.

I gael cymorth penodedig ar gyfer therapi lleferydd a dysgu oedolion, ewch i wefan Cadw Fi’n Iach.

 

Lleoliadau

Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn y mannau canlynol ledled y BIP:

  • Ysbyty Athrofaol Cymru: Ffôn: 029 2074 3012
    Ffacs: 029 2074 3013
  • Ysbyty Llandochau: Ffôn: 029 2072 5255
    Ffacs: 02920 71 5446
  • Ysbyty Rookwood: Ffôn: 029 2031 3733
    Ffacs: 029 2031 3733
  • Ysbyty Dewi Sant: Ffôn: 029 2053 6663
  • Ysbyty'r Eglwys Newydd (Uned Niwroseiciatreg): Ffôn: 029 2033 6079
    Ffacs: 029 2062 1273
  • Ysbyty'r Barri: Rhif Ffôn: 01446 704133

Darparwn wasanaeth cleifion mewnol yn yr holl fannau uchod. 

Trefnir apwyntiadau cleifion allanol drwy YAC a Llandochau.

Gwybodaeth Bellach

Os hoffech gael gwybod rhagor am Therapi Lleferydd ac Iaith a gwaith Therapyddion Lleferydd ac Iaith, trowch at wefan Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith.