Cynigiwn ystod eang o wasanaethau cleifion mewnol, cleifion allanol a chymunedol i oedolion ag anawsterau cyfathrebu a llyncu ledled Caerdydd a'r Fro.
Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn gweithio gydag oedolion sydd â phroblemau cyfathrebu a/neu fwyta a llyncu sy'n gysylltiedig â:
Gweithiwn yn aml mewn timau amlddisgyblaethol a gweithiwn yn agos gyda theuluoedd, gofalwyr ac eraill sy'n ymwneud â'r unigolyn.
Mae rhai therapyddion yn yr Adran sy'n gallu darparu therapi drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cadw Fi’n Iach yn adnodd digidol sydd wedi cael ei ddatblygu i gefnogi cleifion ar draws Caerdydd a’r Fro i hunanreoli cyflyrau parhaus, adsefydlu a gwella.
I gael cymorth penodedig ar gyfer therapi lleferydd a dysgu oedolion, ewch i wefan Cadw Fi’n Iach.
Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith wedi’u lleoli ledled y BIP:
Mae ein clinigau cleifion allanol wedi'u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ac Ysbyty Dewi Sant. I gysylltu â ni, hunanatgyfeirio, neu drefnu apwyntiad, cysylltwch â'r Adran Weinyddol Cleifion Allanol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau:
Mae ein gwasanaethau cleifion mewnol wedi'u lleoli ar draws yr ymddiriedolaeth. Gallwch gysylltu â'n prif safle am ragor o wybodaeth, gadewch eich manylion cyswllt os byddwch yn cyrraedd y peiriant ateb.
Ysbyty Athrofaol Cymru (a'r prif weinyddwr):
Mae'r rhain wedi'u lleoli o fewn y Timau Adnoddau Cymunedol sy'n cwmpasu Caerdydd a Bro Morgannwg. Siaradwch â'ch meddyg teulu.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Therapi Lleferydd ac Iaith Oedolion - Cadw Fi'n Iach