Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Galwedigaethol

Beth mae Therapydd Galwedigaethol yn ei wneud?

Disgrifiad Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol o’n gwaith yw “helpu pobl o bob oed i oresgyn heriau wrth gwblhau tasgau neu weithgareddau bob dydd – yr hyn rydyn ni’n ei alw yn ‘alwedigaethau’.

“Mae therapyddion galwedigaethol yn gweld y tu hwnt i ddiagnosis a chyfyngiadau tuag at obeithion a dyheadau. Maen nhw’n edrych ar y berthynas rhwng y gweithgareddau rydych chi’n eu gwneud bob dydd – eich galwedigaethau – ochr yn ochr â’r heriau rydych chi’n eu hwynebu a’ch amgylchedd.

“Yna, maen nhw’n creu cynllun o nodau ac addasiadau wedi’u targedu at gyflawni set benodol o weithgareddau. Mae’r cynllun yn ymarferol, yn realistig ac yn bersonol i chi fel unigolyn, er mwyn eich helpu i gyflawni’r datblygiadau arloesol sydd eu hangen arnoch chi i wella eich bywyd bob dydd.

“Mae’r gefnogaeth hon yn gallu rhoi ymdeimlad o bwrpas o’r newydd i bobl. Mae’n gallu agor cyfleoedd newydd a newid y ffordd mae pobl yn teimlo am y dyfodol hefyd.”

 
 
Dilynwch ni