Mae profion meddygaeth niwclear yn defnyddio ychydig bach o ymbelydredd i gael delweddau. Bydd hyn yn helpu'ch llawfeddyg i ddod o hyd i'r nod lymff Sentinel, sef y nod cyntaf yn y gadwyn lymff y gall canser ledaenu iddo. Pwrpas y prawf hwn yw dangos lleoliad y nod cyntaf, ac nid yw o reidrwydd yn golygu bod y nodau lymff eraill yn gysylltiedig.
Rhowch wybod i ni os ydych chi'n feichiog neu os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n feichiog. Nid oes angen paratoad arall.
Rhoddir hufen anesthetig ar ardal y pigiad awr cyn eich apwyntiad gan staff ar y ward.
Byddwn yn gofyn ichi newid i gŵn claf cyn yr archwiliad. Bydd yr ymbelydredd yn cael ei chwistrellu ar ymyl y deth ychydig o dan y croen. Bydd rhywfaint o anghysur yn ystod y pigiad a fydd fel arfer yn mynd ar ôl ychydig funudau, a dylai'r hufen anesthetig helpu gyda hyn.
Efallai y bydd rhaid i chi aros 15-30 munud cyn y sgan i ganiatáu i'r ymbelydredd gyrraedd y nod sentinel. Yn ystod yr amser hwn, gallwch helpu symudiad yr ymbelydredd trwy dylino'r fron.
Perfformir y sgan drwy ddefnyddio offer o'r enw camera gama a bydd yn cymryd tua 10 munud. Gofynnir i chi orwedd ar eich cefn gyda'ch breichiau uwch eich pen. Cyn gynted ag y gallwn weld y nod, byddwn yn marcio'r croen gan ddefnyddio beiro farcio. Weithiau ni fydd y nod yn dangos ar y sgan cyntaf ac efallai y bydd rhaid i ni eich ail-sganio yn nes ymlaen.
Mae'r marc ar y croen yn galluogi'r llawfeddyg i ddod o hyd i'r nod sydd wedyn yn cael ei dynnu a'i brofi. Yna byddwch yn dychwelyd i'r ward.
Os ydych chi'n fenyw o oedran magu plant, rhowch wybod i ni os ydych chi'n feichiog, neu'n meddwl y gallech chi fod yn feichiog, cyn eich pigiad. Rhowch wybod i ni hefyd os ydych chi'n bwydo ar y fron.