Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn rhan o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a sefydlwyd o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Ei ddiben yw rheoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cydweithio gwell rhwng byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, y trydydd sector, y sector annibynnol a chynrychiolwyr gofalwyr, a sicrhau gwasanaethau, gofal a chymorth effeithiol er mwyn bodloni anghenion ein poblogaeth orau.
Amcan y Bwrdd yw sicrhau bod cyrff partneriaeth yn cydweithio'n effeithiol i:
I weld Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth y Bwrdd, ewch i wefan y Bartneriaeth yn www.cvihsc.co.uk
I ddysgu rhagor am y gwaith a wneir, darllenwch Adroddiadau Blynyddol y Bwrdd:
Hefyd, gallwch glywed y partneriaid yn trafod integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar YouTube.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bartneriaeth trwy e-bostio Hsc.Integration@wales.nhs.uk neu ffonio 029 2184 2150
Dilynwch ni ar Twitter a Facebook!
CVIHSCPartnership | |
@CV_ihscpship |
|
|
Mae adnodd cymunedol newydd o'r enw Dewis Cymru wedi'i ddatblygu i gynnig cyfarwyddiadur o wasanaethau ac adnoddau lleol. Bydd y cyfarwyddiadur yn galluogi pobl i gael at wybodaeth am wasanaethau awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y trydydd sector a'r sector annibynnol yn hawdd.