Bwriad KidzMedz Cymru yw dysgu plant a phobl ifanc dros bump oed sut i lyncu tabledi a chapsiwlau yn ddiogel.
Mae gan dabledi a chapsiwlau nifer o fanteision dros feddyginiaethau hylif. Nod y rhaglen yw cefnogi plant a phobl ifanc i newid o feddyginiaeth hylif i dabledi neu ganiatáu iddynt gael tabledi ar bresgripsiwn cyn gynted ag y byddant yn dechrau triniaeth.
Mae KidzMedz Cymru yn dilyn rhaglenni llwyddiannus a gyflwynwyd mewn rhannau o Loegr a’r Alban a’i nod yw sicrhau lleihad o 40% yn y defnydd o feddyginiaethau hylif a roddir ar bresgripsiwn dros y 12 mis nesaf.
Mae gan dabledi nifer o fanteision dros feddyginiaeth hylif i gleifion, eu gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys:
- I blant a phobl ifanc, nid oes cymaint o flas ych-a-fi gan dabledi, mae nhw’n cynnwys llai o siwgr ac mae plant sy'n llyncu tabledi yn tueddu i gadw at eu trefn meddyginiaeth yn well
- I ofalwyr, mae tabledi’n para’n hirach, nid oes angen eu storio mewn oergell, maent yn haws eu cludo ac ar gael yn haws mewn fferyllfeydd lleol
- I ragnodwyr, mae llai o siawns o wneud camgymeriadau wrth ysgrifennu presgripsiynau a gallant ragnodi symiau mwy ohonynt
- Ar gyfer fferyllwyr, mae tabledi’n cael eu stocio'n fwy cyffredin mewn fferyllfeydd lleol o gymharu â hylifau.
Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu sut i lyncu tabledi’n ddiogel gan ddefnyddio techneg chwe cham sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Byddant yn dechrau trwy ddewis diod o'u dewis - naill ai dŵr neu sudd ffrwythau heb siwgr - a byddant yn gweithio trwy gyfres o losin o wahanol feintiau yn raddol.
Unwaith y byddant wedi cwblhau’r rhaglen ac yn gallu llyncu tabledi neu gapsiwlau yn ddiogel ac yn hyderus, byddant yn derbyn pecyn addysg sy’n cynnwys pecyn tabledi, potel ddŵr a thystysgrif. Bydd rhieni a gofalwyr hefyd yn derbyn taflen wybodaeth.
Datblygwyd y cynllun gyntaf yn Ysbyty Plant Great North yn Newcastle yn 2020 ac mae wedi ennill Gwobr Cynaliadwyedd y GIG, Gwobr Gwerth HSJ am Fferylliaeth ac Optimeiddio a Gwobr Syniadau Da mewn Iechyd am Ddangos Effaith ar Wella Ansawdd.
Llyncu tabledi: Canllaw i rieni a gofalwyr
Top Tips!
- Byddwch yn gadarn ac yn gyson ond ceisiwch osgoi cosbau a bygythiadau
- Rhowch anogaeth iddynt mewn ffordd gadarnhaol!
- Mae wir yn eu helpu i weld pa mor falch ydych chi eu bod wedi cymryd eu meddyginiaeth.
- Dylai cymryd y dabled fod yn rhan o’u trefn ddyddiol h.y. brecwast, tabled, brwsio dannedd.
- Ceisiwch roi eu meddyginiaeth ar yr un pryd bob dydd lle bo hynny’n bosibl.
- Osgowch hylifau trwchus.
- Rhowch reolaeth i’r plentyn trwy adael iddynt ddewis pa feddyginiaeth i’w chymryd yn gyntaf.
- Ceisiwch beidio â llwgrwobrwyo neu fargeinio.
- Defnyddiwch fwyd i helpu i leihau blas cas (rhowch lwyaid o iogwrt neu jeli iddynt ar ôl llyncu).
- Ceisiwch osgoi twyllo’r plentyn gyda bwyd (peidiwch â chuddio’r dabled!)
- Gwnewch y broses yn hwyl!
Os yw eich plentyn yn gwrthod...
- Peidiwch byth â gofyn i’ch plentyn os ydynt eisiau cymryd y feddyginiaeth. Nid yw hyn yn ddewisol.
- Byddwch yn gadarn pan mae hi’n bryd cymryd y feddyginiaeth (dim gweithgareddau eraill).
- Dylech fod ag agwedd bendant. Rydych chi’n disgwyl iddynt gymryd y feddyginiaeth yn yr un modd ag y byddech chi’n disgwyl iddynt wisgo côt y tu allan.
- Peidiwch â chynhyrfu.
- Arhoswch yn yr ystafell gyda’r plentyn. Gallant adael a mynd i chwarae / gwneud gweithgaredd arall dim ond pan fyddant wedi cymryd y feddyginiaeth.
- Siaradwch â’ch tîm meddygol os nad yw eich plentyn yn cymryd ei feddyginiaeth.
Am unrhyw gwestiynau am y rhaglen, e-bostiwch KidzMedz.Cymru.Cav@wales.nhs.uk