Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddod o hyd i ni

Mae'r prif glinig offthalmoleg gan gynnwys y clinig llygaid brys wedi'i leoli ar y Llawr Gwaelod yn Ystafell 8 ar y prif goridor cleifion allanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae'r ystafell chwistrellu ar gyfer dirywiad macwla gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran wedi'i lleoli yn Ystafell 7 sydd hefyd ar brif goridor cleifion allanol ar Lawr Gwaelod YAC.

Mae'r Ganolfan Diagnostig a Thriniaeth Offthalmig [ODTC] ar gyfer sgrinio glawcoma, gwaith dilynol sefydlog a phrofi meysydd gweledol wedi'i lleoli yn Ystafell 1 sydd gyferbyn ag Ystafell 8.

Mae'r clinigau hyn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am - 5.00pm

Y rhif ffôn ar gyfer unrhyw faterion yn ymwneud ag apwyntiadau yw 029 2074 8181

Y rhif ffôn ar gyfer cynghori ac apwyntiadau i gyflyrau llygaid brys yw 029 2184 3191

Os oes gennych broblem llygaid brys, ewch i weld eich optegydd lleol a fydd yn eich asesu'n drylwyr cyn eich cynghori ar driniaeth a/neu a fydd yn siarad â'n tîm meddygol i gael eich atgyfeirio i'r clinig llygaid brys.

Os ydych chi wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar a'ch bod yn cael problemau, ffoniwch y clinig llygaid brys i gael cyngor gan ein nyrsys arbenigol offthalmig.

Rydym yn rhedeg gwasanaeth ar alwad 24 awr sy'n darparu cyngor a thriniaeth frys.

Dilynwch ni