Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i ddarparu’r holl wasanaethau iechyd i’w poblogaeth gan gynnwys gwasanaethau cataract adfer golwg. Er bod yn rhaid i fyrddau iechyd ddarparu’r gwasanaethau hyn, nid oes angen iddynt, o angenrheidrwydd, gael eu darparu o fewn ardal ffiniau’r bwrdd iechyd, ac mae llawer o wasanaethau bellach yn cael eu darparu’n rhanbarthol e.e. rhai meysydd o ran gofal arbenigol neu os oes manteision sylweddol yn deillio o gyfuno gwasanaethau sy’n sicrhau y gall mwy o gleifion gael eu trin nag a fyddai fel arall.
Felly mae Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg wedi cytuno i gydweithio i adolygu opsiynau ynghylch y manteision posibl i gleifion a staff drwy gyfuno ein hadnoddau i gynyddu nifer y llawdriniaethau cataract a wneir ac i leihau amseroedd aros cleifion.
Mae trefniadau dros dro wedi bod ar waith ers mis Ionawr 2023 ar gyfer rhai cleifion o Fyrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg. Mae’r trefniadau yma wedi eu galluogi i gael llawdriniaeth cataractau gan ddefnyddio capasiti ychwanegol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Yn gynnar yn 2024 bydd rhywfaint o gapasiti ychwanegol hefyd yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni. Bydd hyn yn golygu y bydd cleifion Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg yn cael llawdriniaethau cataract yn gynt.
Cynhyrchwyd y canlynol i ddarparu mwy o wybodaeth am wasanaethau cataractau ac fel modd o’ch galluogi i roi eich barn i ni am wasanaethau cataractau a'r hyn sydd angen ei ystyried pan fydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio.
Bwriedir cynnal cyfnod ymgysylltu o 12 wythnos o 9.00yb ar Ddydd Llun 13ag o Dachwedd 2023 nes 5.00yp ar Ddydd Gwener 2ail o Chwefror 2024.
Rhowch adborth i ni drwy gwblhau'r arolwg ar-lein trwy'r cod QR neu'r ddolen URL isod:
URL: https://forms.office.com/e/XZfKjdSApg
Efallai y byddwch am ei sganio, neu dynnu llun o ansawdd da a'i e-bostio atom yn: sewales.cataracts@wales.nhs.uk
Neu anfonwch ef i'r cyfeiriad isod:
Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC)
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Sesiynau Ymgysylltu â'r Cyhoedd
Bydd pob Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu'n weithredol â phobl hŷn drwy amrywiaeth o grwpiau a digwyddiadau. Yn ogystal â hyn, gall pobl
fynychu sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd generig, lle cewch wybod mwy am y cynnig a gofyn unrhyw gwestiynau ar y dyddiadau canlynol:
Arlein ar Teams · 5yp i 6.30yp, Dydd Iau 7fed Rhagfyr 2023 · 5yp i 6.30yp, Dydd Mawrth 23ain Ionawr 2024
Drwy e-bost gydag unrhyw sylwadau neu os hoffech ymuno ag un o’r sesiynau ar-lein uchod ar sewales.cataracts@wales.nhs.uk a byddwn yn trefnu i anfon dolen atoch ar gyfer y sesiwn.
Cyfrannu at unrhyw sgyrsiau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd