Mae Gynaecoleg yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cleifion mewnol, cleifion allanol a brys. Mae gwasanaethau gynaecoleg yn datblygu'n barhaus, gyda mwy o weithdrefnau'n cael eu cynnal yn yr adran cleifion allanol a llawer o lawdriniaethau'n cael eu cynnal fel achosion dydd. Mae gan ymarferwyr nyrsio rolau allweddol, gan weithio'n agos gyda'r gynaecolegwyr ymgynghorol, ac maen nhw'n ymwneud â gweithdrefnau gynaecolegol, clinigau cyn-asesu a'r Uned Asesu Gynaecolegol Frys. Dyma'r ganolfan ranbarthol ar gyfer Oncoleg Gynaecolegol, ac mae'n darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer Wro-gynaecoleg. Darperir gwasanaethau ar gyfer menywod sy'n terfynu beichiogrwydd a menywod sy'n camesgor.
Gynaecoleg Cyswllt B2 - Yr amseroedd ymweld yw 2pm-4pm a 6pm-8pm
Derbynfa: 02921 842123
Gorsaf y Nyrsys: 02921 844768
Cydlynwyr Gynaecoleg: 029 2184 6615, 029 2184 6616, 029 2184 1265, 029 2184 7034, 029 2184 4504
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.