Erthyliad yw’r broses feddygol o ddod â beichiogrwydd i ben a mae terfynu yn enw arall arno.Os ydych chi’n feichiog ac yn ystyried erthylu, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydym yma i’ch cefnogi drwy’r broses.
Os ydych yn feichiog yn yr ardal Caerdydd a'r Fro ac yn ystyried triniaeth erthyliad, llenwch y ffurflen hon. Maer ffyrfloen atgyfeiro ar-lein hon ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal Caerdyff a'r Fro. Os ydych yn byw y tu allan i'r ardal hon, edrychwch ar y shwales.online am eich gwasanaethau lleol.
Rydym yn argymell profion STI ar-lein cyn i ni eich gweld. Gallwch ddefnyddio’r Profi trwy'r Post Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael pecyn profi am Glamydia a Gonorea, neu pecyn i brofi am HIV, Siffilis, Hepatitis B a Hepatitis C.
Edrychwch ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau ar gyfer beichiogrwydd heb ei gynllunio.
Rydym yn argymell profion STI ar-lein cyn i ni eich gweld, y gallwch eu trefnu yma.
Os hoffech, rydym hefyd yn cynnig pob dull atal cenhedlu yn ein clinig. Edrychwch ar Dewisiadau Atal Cenhedlu i archwilio eich opsiynau.
Os ydych yn ystyried cael neu wedi cael erthyliad, a hoffech gael mwy o gefnogaeth, ewch i wefan abortion talk.
Edrychwch ar y ircymru.online i gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau ar gyfer beichiogrwydd heb ei gynllunio.