Mae niwroffisioleg yn ymwneud ag archwilio gweithrediad yn y brif system nerfol a'r system nerfol berifferol.
Os ydych chi'n Wyddonydd Gofal Iechyd sy'n gweithio ym maes niwroffisioleg, byddwch chi'n ymarferwr arbenigol sy'n archwilio gweithrediad y system nerfol i wneud diagnosis o anhwylderau niwrolegol a'u monitro, gan gynnwys:
Os ydych chi'n gweithio yn y maes gwyddor gofal iechyd hwn, byddwch yn cynnal archwiliadau mewn amgylcheddau neu adrannau pwrpasol, mewn lleoliadau gofal dwys ac mewn theatrau llawdriniaeth. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion mewnol ac allanol o bob oedran (babanod, plant ac oedolion). Mae sawl lefel mynediad i niwroffisioleg.
Swyddog technegol cynorthwyol (ATO)O dan oruchwyliaeth, mae'r ATO yn cynorthwyo ffisiolegwyr clinigol a meddygon ymgynghorol ag amrywiaeth o archwiliadau niwroffisiolegol. Mae'r rôl hon yn galw am addysg uwchradd sylfaenol, sylw rhagorol i fanylion a sgiliau cyfathrebu da. |
|
Rhaglen hyfforddi ymarferwyr (PTP)Mae myfyrwyr yn ymgymryd â gradd anrhydedd BSc amser llawn, tair blynedd mewn Gwyddor Gofal Iechyd, gan arbenigo ar y llwybr niwrosynhwyraidd. Gwneir lleoliadau gwaith mewn awdioleg, gwyddorau'r golwg a niwroffisioleg, gan ddatblygu dealltwriaeth ym mhob maes. Caiff myfyrwyr eu hyfforddi i gyflawni a dehongli amrywiaeth o archwiliadau niwroffisiolegol sylfaenol i lefel uchel o gymhwysedd. Y gofynion academaidd ar gyfer y BSc mewn Gwyddor Gofal Iechyd yw 4 TGAU (Gradd A-C) gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddor Dwbl (neu gyfwerth) a 2 Safon Uwch (gan gynnwys dau bwnc gwyddoniaeth) neu gyfwerth. |
|
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Niwroffisioleg (Rhaglen Ymarfer Gwyddonol Arbenigol Achrededig - ASSP)Dyma raglen waith a rhaid bod adran niwroffisioleg yn eich cyflogi. Dylai fod gan hyfforddeion o leiaf 3 mis o wasanaeth o fewn adran niwroffisioleg cyn dechrau'r rhaglen. Mae angen gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn Ffisioleg Glinigol neu gyfwerth mewn pwnc Gwyddorau Bywyd, e.e. cemeg, biocemeg, fferylliaeth, technoleg fferyllol, ffarmacoleg, ffisioleg, pwnc gwyddor ffisegol neu, os ydych yn dod o'r tu allan i'r DU, gradd neu gymhwyster sy'n cael eu hystyried o safon gyfwerth o leiaf. |
|
Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP)Gall hyfforddiant STP gael ei gyflawni yn dilyn hyfforddiant PTP neu trwy fynediad uniongyrchol gyda gradd, profiad a chymwysterau proffesiynol priodol. Gwneir MSc mewn Gwyddor Gofal Iechyd gydag arbenigedd Niwrosynhwyraidd sy'n para tair blynedd tra'n gweithio mewn adran niwroffisioleg, gan ganiatáu am gymhwyso gwybodaeth ac ennill profiad gwerthfawr. Caiff datblygiad personol a phroffesiynol ei annog a'i gefnogi fel y gall staff gyflawni'u dyheadau. |
|
Gwyddonydd Siartredig NiwroffisiolegMae gweithwyr proffesiynol cymwysedig yn rheoli, yn cynllunio, yn cyflawni, yn datblygu ac yn dehongli amrywiaeth o archwiliadau niwroffisiolegol sylfaenol ac uwch. Dyma ddilyniant o'r PTP ac yna'r STP neu gyfwerth gyda phrofiad perthnasol a chymwysterau proffesiynol. |
|
Gyrfaoedd mewn NiwroffisiolegGweithio i niOs hoffech holi am weithio gyda ni yn y dyfodol, cysylltwch â ni!
|