Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am Niwroffisioleg

Mae'r staff yn yr Adran Niwroffisioleg yn diagnosio ac yn monitro cyflyrau sy'n effeithio ar y brif system nerfol a'r system nerfol berifferol, ac ar y llygaid, fel epilepsi, nerfau wedi'u dal ac anhwylderau'r golwg.  

Gwnânt hyn trwy fesur gweithgarwch trydanol yr ymennydd, llinyn yr asgwrn cefn, y nerfau a'r cyhyrau. Gall amrywiaeth o brofion sy'n siartio gwahanol weithgareddau'r ymennydd a gweithgareddau niwrolegol gael eu cynnal i gofnodi:

  • Ysgogiadau trydanol yn yr ymennydd (Electroenceffalogram).
  • Signalau trydanol sy'n teithio ar hyd nerfau yn y breichiau/coesau (Astudiaethau Dargludiad Nerfol).
  • Gweithgarwch trydanol yn y cyhyrau (Electromyogram).
  • Ymatebion yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn i botensialau a ysgogwyd.
  • Ymateb y retina (y llygaid) i gyffroad golau. 

Mae'r gwasanaeth ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Mae'r profion mwy cyffredin yn cael eu cynnig yn lleol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn Ysbyty Gwynllyw, Gwent, ac yn Ysbyty Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yng Nghwm Taf.

Mae'r adran yn yr Ysbyty Athrofaol wedi'i lleoli ar y pedwerydd llawr rhwng blociau A a B. Mae Niwroffisiolegwyr Ymgynghorol a Ffisiolegwyr Clinigol yn cefnogi'r gwasanaeth. 

Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith yn ymwneud â darparu gwasanaeth cleifion allanol, er ein bod yn darparu gwasanaeth cleifion mewnol i bobl y mae angen profion arnynt ar frys. 

Mae gwasanaeth monitro EEG (electroenceffalogram) trwy fideo'n cael ei ddarparu ar ward Niwroleg C4 yn Ysbyty Athrofaol Cymru. 

 

Lleoliad

Dilynwch ni