Mae Adrannau Iechyd Plant a Biocemeg BIP Caerdydd a'r Fro yn darparu gwasanaeth clinigol ar gyfer diagnosis, asesu a thrin cleifion pediatrig ac oedolion sydd â chlefydau Metabolaidd a Etifeddwyd ac anhwylderau Storio Lysosomaidd.
Mae'r Gwasanaeth Clefydau Metabolaidd a Etifeddwyd a Chlefyd Lysosomaidd yn cynnwys Clinigydd Arweiniol (Paediatregydd), Ymgynghorydd Oedolion, Biocemegydd Ymgynghorol, Nyrs Arbenigol, Fferyllydd Arbenigol, Dietegydd, Seicolegydd, Ffisiotherapydd a gwasanaethau cymorth sy'n ymdrin â'r holl gleifion sy'n byw yng nghanolbarth, dwyrain, de a gorllewin Cymru.
Mae'r Adran Biocemeg ac Imiwnoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) yn darparu gwasanaethau labordy metabolaidd arbenigol. Mae'r labordai hyn yn darparu ystod eang o ymchwiliadau a sgrinio arbenigol, yn ogystal â gwasanaeth cynghori diagnostig i glinigwyr eraill ac adrannau biocemeg eraill yng Nghymru. Caiff ymchwiliadau arbenigol heb eu cynnal gan yr Adran Biocemeg yn YAC eu hanfon i ganolfannau arbenigol ledled y DU a thros y byd.
Mae'r Gwasanaeth Clefydau Metabolaidd a Etifeddwyd a Chlefyd Lysosomaidd ar gael i feddygon oedolion a phediatrig, staff labordai a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n dod i gysylltiad â'r cleifion hyn ledled Cymru.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu addysg, cymorth a chyngor i gleifion, teuluoedd, gofalwyr ac aelodau eraill o'r tîm gofal iechyd / cymdeithasol, fel athrawon ysgol.
Ysgrifennydd: 029 2074 3275
Ffacs: 029 2074 6317