Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau

Ceisiadau cyn-trallwysiad YN UNIG

Rhaid i bob label enghreifftiol fod mewn llawysgrifen a chynnwys y wybodaeth ganlynol:

Cyfenw y claf

Enw cyntaf y claf

Rhyw

Dyddiad geni (nid oedran)

Rhif ysbyty

Ward

Llofnod y person sy’n cymryd gwaed

Amser cymryd sampl

Mae adnabod cleifion yn gadarnhaol yn hollwysig er mwyn darparu trallwysiad diogel.

Sylwch: bydd sbesimenau sydd wedi’u labelu â labeli Addressograff yn cael eu taflu a gofynnir am sampl Newydd.

Dim on dos yw’r ffurflen gais a’r wybodaeth label sampl yn union yr un fath a bod y datganiad adnabod claf ar y ffurflen gais wedi’i gwblhau y caiff samplau eu derbyn i’w prosesu. Bydd unrhyw hepgoriadau neu anghysondebau yn arwain at wthod/gwaredu sample a gofynnir am sampl Newydd. Ni chaniateir newidiadau i label y sampl ar ô leu derbyn yn y labordy. Mae Polisi Dim Goddefgarwch Cymru Gyfan gyda meini prawf derbyn sampl penodol.

Rhowch fanylion perthnasol ar y ffurflen gais am nifer yr unedau a’r gydran waed benodol sydd ei hangen, dyddyad ac amser trallwysiad, y rheswm dros y cais trallwysiad ac unrhyw hanes trallwysiad perthnasol.

Wrth wneud ceisiadau am brofion Kleihauer, cynhwyswch wybodaeth ychwanegol lle bo modd, megis grŵp gwaed y fam, sampl gwaed llinyn ôl-enedigol ac ati. Mae arwydd o ddiagnosis clinigol a hyd y beichiogrwydd o werth mawr i staff labordy.

 

Rhaid cael caniatad ar gyfer samplu cyn trallwysiad a rhoi cydran gwaed a chynnyrch.

Dilynwch ni