Neidio i'r prif gynnwy

Profion Gwaed

Mae ein Gwasanaeth Fflebotomi’n darparu gwasanaeth i wardiau a chlinigau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Hafan y Coed, Ysbyty Dewi Sant* ac Ysbyty’r Barri. 

Mae’r Gwasanaeth Fflebotomi hefyd yn cyflenwi ar gyfer Gwasanaethau Gofal Sylfaenol ar draws ardal Caerdydd a Bro Morgannwg. 

Yn 2022, cymerodd y Gwasanaeth Fflebotomi waed gan 275,319 o gleifion. 

Gwasanaeth Fflebotomi Ysbyty’r Barri 

Mae Gwasanaeth Fflebotomi Ysbyty’r Barri ar gyfer cleifion meddygon teulu y meddygfeydd canlynol yn unig ac mae’n wasanaeth apwyntiad yn unig: 

  • Meddygfa Heol Court 

  • The Waterfront Practice 

  • Practis Teuluol y Fro (Ravenscourt, St Brides, Porthceri) 

  • Practis Meddygol Highlight Park 

  • Meddygfa Sili 

  • The Practice of Health 

  • Canolfan Feddygol Cei’r Gorllewin 

Trefnu apwyntiad 

Dim ond cleifion o’r meddygfeydd a restrir uchod all drefnu apwyntiadau yn Ysbyty’r Barri. 

Peidiwch â chyrraedd yr ysbyty heb drefnu apwyntiad gan fod y gwasanaeth yn gweithredu ar sail apwyntiad yn unig. 

I drefnu apwyntiad, ffoniwch ein llinell trefnu apwyntiadau ar 02921 848 181. Mae’r llinell ar agor rhwng 8am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc). Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Gwnewch yn siŵr bod gennych feiro a phapur wrth law i nodi dyddiad ac amser yr apwyntiad. 

Dod i’r ysbyty 

Sicrhewch eich bod yn dod â’ch ffurflen gais am brawf gwaed. Bydd hon yn ffurflen wedi’i hargraffu ymlaen llaw gyda bag plastig bach ynghlwm a ddarperir i chi gan eich meddyg. Heb y ffurflen hon, ni fydd y gwaedydd yn gallu parhau. 

Dylech gyrraedd dim mwy na 5 munud cyn amser eich apwyntiad. 

Cymerwch sedd pan fyddwch yn cyrraedd. Fe’ch gelwir ar amser eich apwyntiad gan y gwaedydd. 

Mae’r apwyntiadau ar gyfer cleifion yn unig ac rydym yn disgwyl i’r mwyafrif o gleifion fynychu ar eu pen eu hunain. Rydym yn cydnabod nad yw hyn bob amser yn bosibl, fodd bynnag, dim ond un person all fod yn gwmni i’r claf. 

Oriau agor 

Dydd Llun - Dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc): 8am – 10am, 10.15am – 3.15pm 

Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau 

Mae'r Gwasanaeth Fflebotomi yn ein hystafelloedd cleifion allanol ar gyfer cleifion allanol yn unig. Mae gennym ddau leoliad cleifion allanol — un yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac un yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Gallwch gerdded i mewn i’r ddau leoliad ac nid oes angen apwyntiadau.

Sylwer, nid yw'r gwasanaeth hwn yn hygyrch i gleifion sydd â chais meddyg teulu. Trefnwch apwyntiad yn eich practis meddyg teulu er mwyn i'r gwaed hwn gael ei gymryd.

Rhaid i bob claf ddod â’u ffurflen gais am brawf gwaed. Bydd hon yn ffurflen wedi’i hargraffu ymlaen llaw gyda bag plastig bach ynghlwm a ddarperir i chi gan eich meddyg. Heb y ffurflen hon, ni fydd y gwaedydd yn gallu parhau. 

Ysbyty Athrofaol Cymru 

Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru, Ystafell 15 

Oriau agor: Dydd Llun - Dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), 8.30am – 5pm 

Ysbyty Athrofaol Llandochau 

Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Llandochau, Adran Cleifion Allanol, Fflebotomi 

Oriau agor: Dydd Llun - Dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), 9am – 1pm ac 1.30pm – 4pm 

Cwrdd â’r tîm 

Alun Roderick 

Rheolwr Gwasanaeth Hematoleg, Trallwysiad Gwaed a Fflebotomi 

E-bost: alun.roderick@wales.nhs.uk 

Jane James 

Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Fflebotomi 

E-bost: jane.james5@wales.nhs.uk 

Ceri Hooper 

Rheolwr Fflebotomi 

E-bost: ceri.hooper@wales.nhs.uk 

Hannah Bryant 

Arweinydd Clinigol Fflebotomi / Ymarferydd Nyrsio

E-bost: hannah.bryant@wales.nhs.uk 

Deborah Hamlin 

Uwch Oruchwyliwr 

E-bost: Deborah.hamlin@wales.nhs.uk 

Jemma Sargent 

Goruchwyliwr YALl 

E-bost: jemm.sargent@wales.nhs.uk 

Eileen Ruck 

Rôl wedi’i rhannu – Hyfforddwr / Goruchwyliwr YAC 

E-bost: Eileen.ruck@wales.nhs.uk 

Ymholiadau 

Dylid cyfeirio pob ymholiad at y Rheolwr Fflebotomi yn gyntaf. 

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’n prif switsfwrdd drwy ffonio 02920 747747. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. 

* Mae’r gwasanaeth a ddarperir yn Ysbyty Dewi Sant ar gyfer cleifion Meddygfa St David’s Court a Taff Riverside Practice yn unig ac nid yw ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol. 

Dilynwch ni