Mae'n ofynnol i weithwyr iechyd proffesiynol gael cydsyniad dilys gan gleifion cyn archwiliad, triniaeth neu ymyrraeth sy'n cynnwys claf sydd â'r gallu i ddeall yn llawn y cynllun triniaeth sy'n cael ei gynghori.
Gellir rhoi cydsyniad:
Dylid rhoi cydsyniad i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am brawf neu driniaeth y person.
Cydsyniad gan blant a phobl ifanc
Bydd angen i rywun â chyfrifoldeb rhiant roi cydsyniad dros blentyn hyd at 16 oed i gael prawf gwaed.
Gweler Polisi Cydsyniad BIPCAF.
Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â'r broses archwilio a phrofion labordy cyfeiriwch at ganllawiau'r GIG ar brofion gwaed.
Cliciwch yma yma i ddarllen mwy am Brofion Hematoleg ar wefan Profion Labordy Ar-lein.
Am ragor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â'ch profion cysylltwch â'ch meddyg teulu neu glinigydd sy'n gofyn amdanynt.
Mae hyd yr amser y mae'n ei gymryd i gael canlyniadau'n dibynnu ar y prawf (profion) y gofynnir amdanynt a gallant amrywio o oriau i ddyddiau ac mewn rhai achosion wythnosau. Bydd y clinigwr neu'r darparwr gofal iechyd a ofynnodd am y prawf yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi ar pryd i ddisgwyl eich canlyniadau.
Peidiwch â chysylltu â'r labordy am ganlyniadau gan nad yw staff wedi'u hawdurdodi i roi canlyniadau i gleifion.