Rydym yn perfformio microsgopeg electron trawsyrru a sganio ar ystod o samplau sy'n cynnwys, ond nad ydynt yn gyfyngedig i rai:
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth histoleg preifat ar gyfer samplau dermatopatholeg.
Rydym yn cynnig cefnogaeth dechnegol lawn yn amrywio o brosesu samplau, dadansoddi a ffotograffiaeth ddigidol, i gyflenwi adroddiadau ysgrifenedig ar gyfer gwaith mewnol ac allanol.
Er enghraifft, codir £200 am un sbesimen arennol. Mae hyn yn cynnwys prosesu, delweddu ac adroddiad morffolegol. Fodd bynnag, bydd y pris hwn yn gostwng os anfonir nifer o sbesimenau neu os llofnodir cytundeb tymor hir. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Mae sefydlogiad da yn hanfodol ar gyfer microsgopeg electron. Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar ansawdd y sefydlogiad gan gynnwys pH, tymheredd, osmolareg, amser sefydlogiad, a maint y sampl.
Er mwyn cadw'r wltra-adeiledd yn y modd gorau, dylid cadw samplau i oddeutu 1-2mm o faint a'u sefydlogi'n ddelfrydol mewn glutaraldehyde 2.5% mewn byffer ffosffad (pH 7). Os nad yw hyn yn bosibl, dylid sefydlogi mewn fformalin byffer niwtral.
Nodwch os mai dyma'r achos ar y ffurflen gais.
I gael mwy o wybodaeth am baratoi sbesimenau unigol, gweler ein canllawiau ar anfon samplau.
Dylid anfon y sbesimen i'r uned ynghyd â'r ffurflen atgyfeirio gyda'r holl wybodaeth berthnasol.
Mae'n hanfodol bod holl fanylion y claf/ hanes clinigol da yn cael ei ddarparu ynghyd â'r sbesimen, gan y bydd gwybodaeth annigonol yn arwain at oedi yn amser cwblhau'r gwaith ar y sbesimen.
Os ydych chi'n anfon sampl yn fewnol, mae potiau sbesimen a sefydlogydd glutaraldehyde ar gael o'r Uned Microsgopeg Electron, sydd wedi'i lleoli ar goridor cyswllt llawr cyntaf B, ystafell Rhif 71 - Microsgopeg Feddygol, wrth ymyl yr ystafelloedd seminar Patholeg.