Cyn geni:
Cwnsela cyn geni ar gyfer namau cynhenid a gafodd ddiagnosis yn ystod beichiogrwydd sy'n debygol o fod angen llawdriniaeth ar ôl genedigaeth.
Babanod newydd-anedig:
Cyflyrau sy'n gofyn am lawdriniaeth sy'n gysylltiedig â chynamseredd, NEC, rhwystr yn y coluddyn, tyllu’r coluddyn, gastroschisis, ecsomffalos, torgest diaffragmatig cynhenid, atresia oesoffagaidd a ffistwla traceo-oesoffagaidd, briwiau cynhenid yr ysgyfaint/CPAM, systiau dyblyg a systiau’r bol, astresias y coluddyn, camffurfiadau anorefrol, Clefyd Hirschsprung, rhwystr y llwybr wrinol, falfiau wrethrol y rhan gefn, teratoma sacrococcygeal.
Argyfyngau:
Appendicitis, ceilliau troellog, llawesiad, ofari troellog, crawniadau, rhwystr yn y coluddyn, trawma, stenosis pylorig, torgest tagedig, rhwystrau yn y llwybr wrinol a'r arennau.
Cyflyrau eraill:
Problemau’r blaengroen, hypospadias, torgest y bogail, hydrocele, chwydd yn y forddwyd, ceilliau heb ddisgyn, clefyd adlif gastro oesoffagaidd sy'n gofyn am driniaeth ‘fundoplication’, cerrig bustl, gosod tiwb gastrostomi, splenectomi, ffurfiant colostomi neu ileostomi, clefyd llidiol y coluddyn sy'n gofyn am lawdriniaeth, sinws pilonaidd, lympiau a bympiau, canserau plentyndod sy’n gofyn am lawdriniaeth, tiwmor Wilm, niwroblastoma, llinellau mynediad mewnwythiennol ar gyfer cemotherapi, cyflyrau arennau sydd angen triniaeth lawfeddygol, cerrig yn yr arennau, pledren niwropathig, pyeloplasti laparosgopig ar gyfer rhwystr cyswllt pelfigoureterig, rhwystr cyswllt fesigoureterig/adlif a hydronephrosis, arennau deublyg.
Clinigau Tîm Amlddisgyblaethol:
Gwahaniaethu Datblygiad Rhywiol (DSD), Clefyd Llidiol y Coluddyn (IBD), Clinig y Bledren Niwropathig (Clinig 45 ar y Cyd), clinig tîm amlddisgyblaethol Llawfeddygaeth a Gastroenteroleg ar y cyd, tîm amlddisgyblaethol Oncoleg.
Yn olaf:
Llawfeddygon Pediatrig a Newyddenedigol Ymgynghorol