Neidio i'r prif gynnwy

Llawdriniaeth Bediatrig

Yr Adran Llawdriniaeth Bediatrig a Newyddenedigol yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd

Mae’r tîm Llawdriniaeth Bediatrig a Newyddenedigol yng Nghaerdydd yn gofalu am fabanod, plant, a phobl ifanc yn eu harddegau sydd angen llawdriniaeth arbenigol. 

Rydym yn dîm o Lawfeddygon Pediatrig Ymgynghorol ac rydym yn gweithio'n agos gyda grŵp gwych o Uwch Ymarferwyr Nyrsio, Nyrsys Arbenigol, hyfforddeion llawfeddygol a chymrodyr, a'r tîm anhygoel ehangach o feddygon, nyrsys a staff yn yr Ysbyty Plant

Rydym yn darparu gofal brys ar gyfer babanod a phlant sydd â salwch a allai fod angen llawdriniaeth neu driniaeth frys, ac rydym yn darparu gofal dewisol ar gyfer y rhai sydd â salwch llai brys y mae angen eu hadolygu yn y clinig cyn i lawdriniaeth neu driniaeth gael ei chynllunio yn y dyfodol. 

O fewn ein tîm rydym yn is-arbenigo i ddarparu'r gofal gorau posibl i bob plentyn rydym yn gofalu amdano. Mae'r is-arbenigedd hwn yn golygu bod plant â phroblemau penodol sy'n effeithio ar yr arennau a'r bledren, yr ysgyfaint, y llwybr gastroberfeddol uchaf a'r llwybr gastroberfeddol isaf, yn cael gofal gan lawfeddyg sydd ag arbenigedd yn y cyflwr penodol hwnnw. 

Mae’r plant y mae llawer o'r cyflyrau llawfeddygol cyffredin yn effeithio arnynt yn derbyn gofal mewn ysbytai ledled Cymru lle gallant dderbyn gofal yn nes at eu cartref. 

Fodd bynnag, mae angen gofalu am y plant sy’n dioddef rhai o'r cyflyrau prinnach a mwy cymhleth yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd. 

Enw ein prif ward lawfeddygol yw Ward Gwdihw ac mae hon wedi’i sefydlu i ddarparu’r holl ofal a chymorth sydd eu hangen ar blant a theuluoedd tra byddant yn yr ysbyty. 

Caiff ein clinigau eu lleoli yn Adran Cleifion Allanol Seren Fôr a dyma lle rydym yn debygol o weld ein cleifion ar gyfer asesiadau ac adolygiadau. 

Fel tîm rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella'r gofal a ddarparwn i'n cleifion ymhellach ac rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd. Rydym yn arloeswyr mewn technegau llawdriniaeth sy'n creu archoll mor fach â phosib (llawdriniaeth twll clo) ar gyfer llawer o lawdriniaethau ac rydym yn ffodus i gael ystafell theatr llawdriniaeth newydd ei hadeiladu sydd â chyfarpar llawdriniaeth twll clo gwych, manylder uwch. Rydym yn ymwneud yn helaeth ag addysg ac ymchwil fel y gallwn alluogi pob rhiant, meddyg, neu nyrs, sy'n gofalu am un o'n cleifion, i gyfrannu a helpu gyda'u gofal. Rydym hefyd yn tynnu ar arbenigedd o bob rhan o’r wlad ac o gwmpas y byd er mwyn inni allu sicrhau bod y plant rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru yn cael y llawdriniaeth orau posibl. 

Rydym hefyd yn cynnal rhai clinigau amlddisgyblaethol ar gyfer cyflyrau penodol lle mae ar blant angen mewnbwn o wahanol arbenigeddau. Mae'r clinigau hynny'n cael eu sefydlu i arbed ychydig o deithiau i rieni er mwyn iddynt allu gweld pob meddyg mewn un apwyntiad clinig. 

Clinigau Tîm Amlddisgyblaethol: 

  • Gwahaniaethu Datblygiad Rhywiol (DSD)
  • Clefyd Llid y Coluddyn (IBD) 
  • Clinig y Bledren Niwropathig (Clinig 45 ar y Cyd)
  • Clinig MDT Llawdriniaeth a Gastroenteroleg ar y Cyd
  • MDT Oncoleg 

Cliciwch yma i weld rhestr o rai o'r cyflyrau rydym yn gofalu amdanynt.

Dilynwch ni