Triniaeth allgorfforol yw Afferesis Lipoprotein, lle tynnir y gwaed y tu allan i'r corff, yn debyg i ddialysis yr arennau.
Peiriant DALI
Defnyddir y driniaeth i ostwng clefyd y galon sy'n achosi colesterol 'gwael' (colesterol lipoprotein dwysedd isel (LDL-C), lipoprotein (a) a thriglyseridau) yn effeithlon a diogel.
Mae hypercolesterolemia teuluol (HT) ar y rhan fwyaf o gleifion sy'n cael y driniaeth hon. Mae HT yn effeithio ar 1 o bob 500 unigolyn, ac mae'r unigolion dan sylw mewn perygl o gael clefyd cardiofasgwlaidd cynamserol. Caiff mwyafrif helaeth yr unigolion â HT eu trin yn ddigonol â meddyginiaeth tabledi, ond mae afferesis lipoprotein yn ymyriad priodol ac effeithiol i nifer fechan o gleifion sydd â chlefyd ffyrnig.
Mae'r diagramau isod yn cynrychioli'r ddwy dechneg afferesis a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yn uned lipidau Caerdydd. Mae afferesis HELP ar gael hefyd.
Afferesis Gwaed Cyfan ALI |
Afferesis Plasma Kaneka |
Ar hyn o bryd, mae'r Uned yn trin 18 o gleifion o Dde Cymru a Gorllewin Lloegr. Caiff cleifion eu hatgyfeirio fel arfer gan eu clinig lipidau lleol am asesiad cychwynnol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau gyda'r tîm clinigol.