Neidio i'r prif gynnwy

Hoffwn prawf STI

Os hoffech gael prawf STI (gan gynnwys profi am HIV) am dawelwch meddwl, cliciwch yma i wasanaeth Profi trwy'r Post Iechyd Cyhoeddus Cymru i drefnu pecyn prawf cartref am ddim.

Gall profion post ar gyfer tawelwch meddwl brofi am clamydia, gonorrhea, HIV, syffilis a hepatitis B ac C. Nid yw profion post yn profi am firws herpes simplex neu HPV (dafadennau genital).

Bydd amlen heb ei nodi yn cael ei hanfon i'ch cyfeiriad dewisol. Bydd canlyniadau negyddol yn cael eu hanfon atoch trwy neges destun. Os canfyddir bod gennych haint, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu triniaeth. 

Os bydd unrhyw un o'r profion yn dangos haint sy'n cael ei drosglwyddo'n rhywiol, bydd clinigwr yn cysylltu â chi dros y ffôn i drafod y canlyniadau a hysbysu partneriaid. Os na allwn gysylltu â chi dros y ffôn, byddwn yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi gysylltu â ni.

Nodwch y gall hyn gymryd hyd at dair wythnos.  Efallai y bydd angen i chi drefnu apwyntiad pellach er mwyn cael triniaeth a threfnu i'ch partner fod yn bresennol.

Ddim yn siŵr pryd i roi cynnig arni?


Os nad oes gennych symptomau:

  • 2 wythnos yn dilyn rhyw i brofi am Chlamydia a Gonorrhea
  • 45 diwrnod yn dilyn rhyw i brofi am HIV
  • 3 mis yn dilyn rhyw i brofi am Syffilis neu Hepatitis

Os ydych chi o dan 18 oed, rydym yn argymell mynd i un o'n clinigau galw heibio.

Dilynwch ni