Pan fyddwn yn derbyn eich atgyfeiriad, byddwn yn eich dyrannu i un o'n timau yn seiliedig ar eich lleoliad. Mae'n bosibl y cewch eich rhoi ar restr aros, os yw'r galw am ein gwasanaeth yn uchel bryd hynny. Bydd ein tîm yn cysylltu â chi i ofyn a hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr aros os yw ein llwyth achosion yn llawn.
Ar ôl cael eich derbyn, bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth dynodedig yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb. Byddant yn trefnu lle addas i gwrdd â chi - gallai fod yn Hyb Awdurdod Lleol, eich tîm iechyd meddwl cymunedol, canolfan byd gwaith neu gaffi.
Yn y cyfarfod wyneb yn wyneb hwn, bydd ein aelod o’r tîm yn dweud mwy wrthych am y gwasanaeth. Os ydych yn hapus i fwrw ymlaen, byddant yn dechrau drwy lenwi rhai ffurflenni syml fel y gallwn ddysgu mwy amdanoch chi a sut y gallwn helpu.
Yn eich cyfarfod nesaf byddwn yn trafod y math o swydd yr ydych ei heisiau, gan ganolbwyntio arnoch chi a'r hyn sy'n eich ysbrydoli a'ch ysgogi. Gyda'ch gilydd, byddwch yn gwneud cynllun i gyflawni'ch nodau. Gallwn eich helpu i ysgrifennu CV, os nad oes gennych un eisoes. Byddwn hefyd yn trafod a ydych yn dymuno datgelu eich heriau iechyd meddwl a chorfforol i ddarpar gyflogwyr. Rydyn ni yma i'ch cefnogi a chael ein harwain gennych chi i sicrhau canlyniad cadarnhaol.
Byddwch yn parhau i gwrdd â'ch Arbenigwr Cyflogaeth yn rheolaidd, gyda'ch gilydd byddwch yn chwilio am swyddi neu hyfforddiant addas, yn siarad am bryderon a allai fod gennych - fel technegau cyfweld am swydd, a thrafod sut rydych chi’n teimlo am y broses hyd yn hyn. Byddwn yno i'ch helpu a'ch arwain, a byddwn hefyd yn hapus i gysylltu â chyflogwyr ar eich rhan (a chyda'ch caniatâd) i ddod o hyd i'r rôl iawn i chi. Fel tîm, byddwch chi a'ch Arbenigwr Cyflogaeth yn anelu at fod wedi cysylltu â darpar gyflogwr o fewn pedair wythnos i'ch dyddiad cychwyn gyda'r gwasanaeth.
Pan gewch gynnig cyflogaeth, neu ar unrhyw gam arall o’r broses hon, bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth yn eich helpu i wneud y cyfrifiad "Gwell eich byd" i sicrhau, os ydych ar fudd-daliadau, na fyddwch yn waeth eich byd am dderbyn swydd â thâl.
Ar y pwynt canol ffordd, tua diwedd mis pedwar, byddwch chi a'ch Arbenigwr Cyflogaeth yn cael adolygiad manylach o'ch cynnydd hyd yn hyn. Beth sydd wedi gweithio i chi a beth sydd ddim? A oes angen newid unrhyw beth i'ch helpu i gael gwaith cyflogedig?
Ym mis naw, os nad ydych wedi llwyddo i sicrhau gwaith, bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth yn mynd dros eich CV a dogfennau galwedigaethol eraill y gallech fod wedi'u llunio gyda chi ac yn adolygu eich taith ac yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill os yw'n briodol. Gallwch ailatgyfeirio at y gwasanaeth gymaint o weithiau ag y dymunwch. Bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth hefyd yn cwblhau cyfweliad ymadael gyda chi, fel y gallwn ddysgu sut i wella'r gwasanaeth.
Pan fyddwch chi’n cael cynnig swydd, efallai y byddwch chi'n poeni am sut i gyrraedd y gwaith, beth i'w wisgo, neu'r agweddau cymdeithasol rydyn ni i gyd yn cael trafferth gyda nhw pan fyddwn ni'n dechrau swydd newydd. Bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth yn parhau i'ch cefnogi drwy gydol y cyfnod pontio hwn.
Cyn i chi ddechrau eich swydd newydd byddwch yn cyfarfod â'ch Arbenigwr Cyflogaeth i drafod unrhyw bryderon a allai fod gennych. Gallai'r rhain gynnwys sut y byddwch chi'n fforddio cael y bws i'r gwaith cyn i chi gael eich cyflog cyntaf, neu sut i siarad â rheolwr am eich heriau iechyd meddwl a chorfforol.
Bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth yn gallu helpu i'ch arwain, a byddant yn gallu cwrdd â'ch rheolwr newydd os ydych chi am iddyn nhw wneud hynny. Gallant hefyd drafod addasiadau rhesymol gyda'ch rheolwr newydd neu eu cyfeirio at ffyrdd o’ch cefnogi yn y gweithle.
Unwaith y byddwch yn dechrau eich swydd newydd, bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth yn cysylltu â chi eto i weld sut rydych chi’n gwneud. O hynny ymlaen, byddwch yn cyfarfod â nhw yn ôl yr angen hyd nes na fydd angen eu cymorth arnoch mwyach neu am hyd at bedwar mis ar y mwyaf, pa un bynnag sydd gyntaf. Yna byddant yn cwblhau cyfweliad ymadael gyda chi i'n helpu i nodi beth sydd wedi mynd yn dda a ffyrdd y gallwn wella'r gwasanaeth.
Os byddwch yn penderfynu ar unrhyw adeg nad ydych yn dymuno cael gwasanaethau cymorth yn y gwaith, mae hynny'n iawn - byddant yn cynnal y cyfweliad ymadael a'r adolygiad dogfennau terfynol.
Os hoffech hunanatgyfeirio at y gwasanaeth, dilynwch y ddolen: