Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Atgyfeirwyr

Sut mae’r gwasanaeth WE:THRIVE yn gweithio? 

Pan fyddwn yn derbyn eich atgyfeiriad, byddwn yn dyrannu'r person rydych chi wedi'i atgyfeirio at un o'n timau yn seiliedig ar eu lleoliad. Mae'n bosibl y bydd eich claf yn cael ei roi ar restr aros, os yw'r galw am ein gwasanaeth yn uchel bryd hynny. Bydd ein tîm yn gofyn i'ch claf a hoffent gael eu hychwanegu at ein rhestr aros os yw ein llwyth achosion yn llawn.    

Ar ôl cael ei dderbyn, bydd Arbenigwr Cyflogaeth dynodedig eich claf yn cysylltu â nhw i drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb. Byddant yn trefnu lle addas i gyfarfod - gallai fod yn Hyb Awdurdod Lleol, eu tîm iechyd meddwl cymunedol neu’r ganolfan waith leol. Mae gennym gyfyngiadau ar gyfarfod yn y cartref. Os gallwch ddod i'r cyfarfod hefyd, efallai y byddwn yn gallu cwrdd yng nghartref eich claf.    

Yn y cyfarfod wyneb yn wyneb hwn, bydd ein haelod o’r tîm yn dweud mwy wrthych am y gwasanaeth. Os yw'ch claf yn hapus i fwrw ymlaen, byddwn yn dechrau trwy lenwi rhai ffurflenni syml fel y gallwn ddysgu mwy am eich claf a sut y gallwn helpu.  

Yn y cyfarfod nesaf byddwn yn trafod y math o swydd y mae eich claf ei heisiau, gan roi'r ffocws arnynt a'r hyn sy'n eu hysbrydoli a'u hysgogi. Gyda'n gilydd, byddwn yn gwneud cynllun i gyflawni eu nodau. Gallwn helpu eich claf i ysgrifennu CV os nad oes ganddynt un eisoes.  Byddwn hefyd yn trafod a ydynt yn dymuno datgelu eu heriau iechyd meddwl a chorfforol i ddarpar gyflogwyr. Rydym yma i gefnogi eich claf a chael ein harwain ganddynt i sicrhau canlyniad cadarnhaol.     

Byddwn yn parhau i gwrdd â'ch cleient yn rheolaidd. Gyda'n gilydd byddwn yn chwilio am swyddi neu hyfforddiant addas, yn siarad am bryderon a allai fod ganddynt - fel technegau cyfweld am swyddi, ac yn trafod sut maen nhw'n teimlo am y broses hyd yn hyn. Byddwn yno i'w helpu a'u harwain, a byddwn hefyd yn hapus i gysylltu â chyflogwyr ar eu rhan (gyda'u caniatâd) i ddod o hyd i'r rôl iawn, Fel tîm, byddwn yn anelu at fod wedi cysylltu â darpar gyflogwr o fewn pedair wythnos i'w dyddiad cychwyn gyda'r gwasanaeth.  

Pan gynigir cyflogaeth i'ch claf neu ar unrhyw gam arall o'r broses hon, gall ein Harbenigwr Cyflogaeth helpu'ch claf i wneud cyfrifiadau "gwell eu byd" i sicrhau, os ydynt ar fudd-daliadau, na fyddant yn waeth eu byd am dderbyn swydd â thâl.  

Ar y pwynt hanner ffordd, tua diwedd mis pedwar, bydd eich claf a'i Arbenigwr Cyflogaeth yn cael adolygiad manylach o'u cynnydd hyd yn hyn. Beth sydd wedi gweithio iddyn nhw a beth sydd ddim? A oes angen newid unrhyw beth i'w helpu i gael gwaith cyflogedig?   

Ym mis naw, os nad ydynt wedi llwyddo i sicrhau gwaith, bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth yn mynd dros eu CV a dogfennau galwedigaethol eraill y maent wedi'u llunio gyda'i gilydd ac yn adolygu eu taith ac yn eu cyfeirio at wasanaethau eraill os yw'n briodol. Gallwch ailatgyfeirio at y gwasanaeth gymaint o weithiau ag y dymunwch. Byddwn yn cwblhau cyfweliad ymadael gyda'ch claf, fel y gallwn ddysgu sut i wella'r gwasanaeth.  

 

Beth sy'n digwydd pan fydd fy nghlaf yn cael cynnig swydd? 

Pan fydd eich claf yn cael cynnig swydd, efallai y bydd yn pryderu am sut i gyrraedd y gwaith, beth i'w wisgo, neu'r agweddau cymdeithasol yr ydym i gyd yn cael trafferth â nhw pan fyddwn yn dechrau swydd newydd. Bydd eu Harbenigwr Cyflogaeth yn eu cefnogi yn ystod cam nesaf y daith.    

Cyn iddynt ddechrau eu swydd newydd, byddant yn cyfarfod â'u Harbenigwr Cyflogaeth i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt. Gallai'r rhain gynnwys sut y byddant yn fforddio cael y bws i’r gwaith cyn y siec cyflog cyntaf, neu sut i siarad â rheolwr am eu heriau iechyd meddwl a chorfforol.   

Bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth yn helpu i arwain eich claf; gallent gwrdd â'r rheolwr newydd os yw'ch claf eisiau iddynt wneud hynny. Gallant hefyd drafod addasiadau rhesymol gyda'r rheolwr newydd neu gyfeirio'r rheolwr at ffyrdd o gefnogi eich claf yn y gweithle.  

Unwaith y bydd eich claf yn dechrau ei swydd newydd, bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth yn cysylltu â nhw eto i weld sut maen nhw'n gwneud. O hynny ymlaen, bydd eich claf yn cyfarfod â'i Arbenigwr Cyflogaeth yn ôl yr angen.   

Tua phedwar mis ar ôl dechrau yn ei swydd newydd, bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth yn cwblhau cyfweliad ymadael gyda'ch claf i'n helpu i nodi'r hyn sydd wedi mynd yn dda a ffyrdd y gallwn wella'r gwasanaeth.  

Os bydd eich claf yn penderfynu ar unrhyw adeg nad yw'n dymuno cael gwasanaethau cymorth yn y gwaith, mae hynny'n iawn - bydd yn cynnal y cyfweliad ymadael a'r adolygiad dogfennau terfynol.  

 

Pam atyfeirio at y gwasanaeth WE:THRIVE? 

Profir bod gweithio yn dda i Iechyd Meddwl trwy ddarparu   

  • ffynhonnell incwm  

  • ymdeimlad o hunaniaeth  

  • cyswllt a chyfeillgarwch ag eraill  

  • trefn a strwythur cyson  

  • cyfleoedd i gyfrannu ac ennill sgiliau.  

Mae Wellbeing Empowerment Through Holistic Recovery & Inclusive Vocational Engagement (WE:THRIVE)  yn ddull gweithredu arloesol i helpu pobl sydd â heriau iechyd meddwl a chorfforol yn ardal Caerdydd a’r Fro.  

Mae'r Gwasanaeth wedi'i fodelu ar fenter Lleoliad a Chymorth Unigol mewn Gofal Sylfaenol (IPSPC) San Steffan.  

Ein nod yw annog a chefnogi cyfranogwyr drwy fabwysiadu ymagwedd holistaidd at les ac adferiad trwy fanteisio ar waith sy’n seiliedig ar eu cryfderau, sgiliau a dewisiadau, gan arwain at ganlyniadau iechyd meddwl gwell. Mae'r gwasanaeth WE:THRIVE ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymorth i gael gwaith cystadleuol â thâl fel rhan o'u taith adfer.  

Mae WE:THRIVE yn seiliedig ar 8 egwyddor IPS sy'n deillio o dystiolaeth, y profwyd eu bod yn helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl.  

 

Beth yw'r meini prawf cymhwysedd? 

  • Mae'n rhaid i'r person rydych yn eu hatgyfeirio gydsynio i gael eu hatgyfeirio ac i ni gysylltu â nhw.   

  • Dylai'r person sy'n cael eu hatgyfeirio fod yn barod i gael gwaith.  

  • Rhaid bod y person sy’n cael eu hatgyfeirio fod wedi cael caniatâd i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os ydynt ar fisa, rhaid i'r fisa ddatgan y byddent yn gymwys i hawlio budd-daliadau pe bai angen.  

  • Mae'n rhaid bod gan y person sy'n cael eu hatgyfeirio gyflwr iechyd meddwl a/neu gorfforol sy'n rhwystr i'w bywyd gwaith hyd yn hyn.  

  • Ni ddylai’r person sy’n cael eu hatgyfeirio fod ar raglen gyflogaeth neu ddarpariaeth arall gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Lywodraeth Cymru.  

  • Rhaid i'r person sy'n cael eu hatgyfeirio fod o oedran gweithio.  

  • Ni ddylai'r person sy'n cael eu hatgyfeirio fod yn cael cymorth cyflogaeth, ac eithrio gan y Ganolfan Byd Gwaith. 

Os hoffech wneud atgyfeiriad ar ran eich defnyddiwr gwasanaeth/cleient, dilynwch y ddolen: WE:THRIVE Atgyfeiriad ar ran rhywun arall

 

Dilynwch ni