Mae Wellbeing Empowerment Through Holistic Recovery & Inclusive Vocational Engagement (WE:THRIVE) yn ddull gweithredu newydd i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ardal Caerdydd a’r Fro.
Mae'r Gwasanaeth wedi'i fodelu ar fenter Lleoliad a Chymorth Unigol mewn Gofal Sylfaenol (IPSPC) San Steffan ac mae wedi'i wreiddio yn y timau trin iechyd meddwl.
Ein nod yw annog a chefnogi cyfranogwyr drwy fabwysiadu ymagwedd holistaidd at les ac adferiad trwy fanteisio ar waith sy’n seiliedig ar eu dymuniadau a'u cymhellion, gan arwain at ganlyniadau iechyd meddwl gwell. Mae'r gwasanaeth WE:THRIVE ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymorth i gael gwaith cystadleuol â thâl fel rhan o'u taith adfer.
Mae WE:THRIVE yn seiliedig ar 8 egwyddor IPS sy'n deillio o dystiolaeth, y profwyd eu bod yn helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl.
Grymuso - Gweithio gyda'n gilydd a'ch cefnogi i gael y pŵer i wneud penderfyniadau a llunio eich canlyniadau
Lles - Eich cefnogi gyda'ch anghenion lles eich hun, p'un a yw'r rheini yn rhai ariannol, personol, cymdeithasol, neu’n ymwneud â hyder ac ati drwy ddull holistaidd gan ddod â chyflogaeth i'ch taith adfer
Trwy - Gydnabod bod gofal iechyd meddwl yn amlochrog ac nad oes un ateb cyffredinol i bawb a darparu gwasanaeth sy'n eich cefnogi a'ch grymuso i arwain eich taith tuag at adferiad
Adferiad - Hyrwyddo eich proses rymuso, cefnogi cysylltiadau cymdeithasol, sefydlogrwydd ariannol, a lles cyffredinol drwy gyflogaeth y profwyd ei bod yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl
Holistaidd - Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'ch tîm gofal sylfaenol - p'un a yw hynny'n feddyg teulu, Tîm Iechyd Cymunedol neu weithiwr iechyd proffesiynol arall i gefnogi'ch anghenion fel rhan o'ch gofal cyffredinol i wella eich canlyniadau iechyd meddwl.
Ymgysylltu - Rydym yn gweithio'n gyflym, gyda'r nod o ddechrau chwilio am gyflogaeth o fewn 4 wythnos - hyd yn oed os ydych wedi bod i ffwrdd o'r gwaith ers blynyddoedd
Galwedigaethol - Gweithio gyda chi a chyflogwyr lleol i'ch cael chi i mewn i waith cystadleuol â thâl wedi'i ysbrydoli gan eich dewisiadau a'ch nodau personol, gan eich cefnogi chi a nhw yn y camau cyn gwaith ac ar ôl i chi gael eich cyflogi, wedi'u teilwra'n llwyr i'ch anghenion chi a'u hanghenion nhw.
Cynhwysol - Ni wneir eithriadau ar sail eich diagnosis, cyflwr iechyd neu statws budd-daliadau.
Pwy all IPSPC helpu?
Mae’r gwasanaeth IPSPC ar gyfer unrhyw un ar daith adferiad iechyd meddwl sydd naill ai angen cymorth i ddychwelyd i’r gwaith neu i gael cyflogaeth
gystadleuol. Ni wneir eithriadau ar sail eich diagnosis, cyflwr iechyd neu statws budd-daliadau.
Sut mae gweithio yn helpu fy iechyd meddwl?
Mae llawer o astudiaethau wedi dangos bod cyflogaeth nid yn unig yn darparu incwm a threfn ddyddiol, ond hefyd yn datblygu hyder, sgiliau ac yn helpu i feithrin hunan-barch yn ogystal â gwella iechyd meddwl.
Beth os nad oes gennyf gymwysterau neu brofiad?
Bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth yn trafod pa gymwysterau a phrofiad sydd gennych - peidiwch â phoeni os nad oes gennych rai, gallant
eich helpu!
Pa fath o swyddi sydd ar gael?
Mae’r gwasanaeth IPSPC yn ceisio dod o hyd i swydd sy’n cyfateb â’ch dewisiadau o ran cyflogaeth, gan weithio gyda chyflogwyr i ddod o hyd i waith rydych chi ei eisiau, nid dim ond yr hyn sydd ar gael.
A fydd yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
Bydd eich Arbenigwr Cyflogaeth yn eich cefnogi gyda chyngor budd-daliadau sy’n unigryw i chi a’ch amgylchiadau fel nad ydych yn waeth eich byd am gymryd rhan.
Beth yw'r 8 egwyddor IPSPC sy'n seiliedig ar dystiolaeth?
• Ei nod yw dod o hyd i waith cystadleuol i chi - nid yw gwirfoddoli yn cyfrif fel canlyniad.
• Mae’n agored i bawb sydd eisiau gweithio - ni wneir eithriadau ar sail diagnosis, cyflwr iechyd neu hawliadau budd-daliadau.
• Mae’n ceisio dod o hyd i swyddi sy’n apelio atoch chi.
• Mae’n gweithio’n gyflym - ein nod yw dechrau chwilio am swydd i chi o fewn 4 wythnos, hyd yn oed os ydych chi wedi bod i ffwrdd o’r gwaith ers blynyddoedd.
• Mae’n dod ag arbenigwyr cyflogaeth i dimau clinigol, fel bod cyflogaeth yn dod yn rhan allweddol o’ch triniaeth a’ch adferiad.
• Bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth yn datblygu perthynas gyda chyflogwyr i helpu i ddod o hyd i waith yn seiliedig ar eich dewisiadau.
• Mae’n darparu cymorth unigol i chi a’ch cyflogwr newydd.
• Mae’n cynnwys cwnsela budd-daliadau, felly ni fyddwch chi’n waeth eich byd.
Er mwyn cymryd rhan, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yn ystod eich apwyntiad nesaf gyda’ch Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yw gofyn a byddan nhw’n cymryd eich manylion.
Os nad ydych yn dymuno aros tan eich apwyntiad nesaf, cysylltwch â’ch Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a gofyn i gael eich atgyfeirio -
gallant gymryd eich manylion dros y ffôn neu wyneb yn wyneb wrth ddesg y dderbynfa.
Os dymunwch, gallwch hefyd hunanatgyfeirio i'r gwasanaeth trwy glicio ar y ddolen isod.
Bydd rhywun o dîm IPSPC yn cysylltu â chi i ddechrau’r broses
Adroddiad Effaith Twf IPS 2021 - IPS Grow Impact Report 2021 - IPS Grow