Mae tîm WE:THRIVE yn canolbwyntio ar bob cleient fel unigolyn i gynnig cymorth cyflogaeth pwrpasol.
Dyma rai sylwadau gan ein cleientiaid:
“Mae Phil wedi bod yn gymwynasgar ac yn gefnogol iawn drwy gydol y broses.”
“Rhaid i mi ddweud cefais fy syfrdanu gan y gefnogaeth a gefais gan y tîm. Roedd yn gefnogaeth nad oeddwn hyd yn oed yn sylweddoli bod ei hangen arnaf.”
“Cyfarfûm â Lauren a helpodd i esbonio’r broses ac yna cyfarfûm â Phil a oedd yn fy nghefnogi’n barhaus. Roedd y ddau ohonyn nhw'n hynod barchus, yn llawn canmoliaeth ac fe wnaethant fy helpu i deimlo y DYLWN i fod yn bwysig yn yr amgylchedd gwaith. Fe wnaethon nhw fy helpu i sylweddoli nad oeddwn i'n faich i gyflogwyr.”
“Oherwydd y mewnbwn gan y tîm, rydw i bellach wedi bod yn ôl mewn cyflogaeth yn gyson erstri mis, ac mae fy nghyflogwyr yn deall mwy amdanaf, a'r hyn y gallant ei wneud i'm cefnogi.”
“Ni allaf ddiolch ddigon iddynt. Dydw i ddim yn siŵr a fyddwn i wedi gallu ei wneud heb y gefnogaeth a gefais.”
“Mae'r gwasanaeth hwn wedi helpu i feithrin fy hyder mewn sawl ffordd, yn enwedig wrth gysylltu â chyflogwyr, rhywbeth nad oeddwn i'n
ei wneud o'r blaen.”
“Rwyf mor ddiolchgar am yr amser rydw i wedi'i gael gyda'r arbenigwyr cyflogaeth, roedden nhw mor gefnogol ac yn rhan annatod o'm twf mewn hyder.”
“Fyddwn i ddim yn eistedd yma, yn hyderus mewn rôl newydd yn gwneud rhywbeth rwy'n angerddol amdano oni bai am Bianca a Cerys.”
“Gallaf ddweud yn hyderus bod Bianca a Cerys yn glod llwyr i'r gwasanaeth a'r GIG maen nhw'n gweithio iddo. Maen nhw’n deall y sefyllfa’n llwyr, ac o'r apwyntiad cyntaf un cerddais i ffwrdd gyda rhywbeth nad oeddwn i wedi'i gael ers tro, gobaith.”
“Gwnaeth Cerys i mi deimlo'n gyfforddus, teimlais ei bod yn fy neall ac fe wnaeth fy annog o'r diwrnod cyntaf drwy dynnu sylw at ehangder y profiad oedd gen i eisoes ac esboniodd y gwasanaeth yn berffaith a'r hyn a ddisgwylid gan y ddwy ochr. Yn dilyn hynny fe wnes i gyfarfod â Bianca sydd wedi fy nghefnogi a’m cymell, wedi bod yn glust i wrando ac wedi fy symbylu pan oedd angen i mi gael fy symbylu. Ar ôl i gynnig swydd gael ei ddileu ar fyr rybudd ym mis Ionawr, cefais fy ngwrthdroi ychydig ac fe wnaethon nhw fy nghefnogi mewn ffordd a wnaeth fy atal rhag llithro'n ôl yn llwyr. Pan nad oedd gen i ffydd ynof fy hun, roedd ganddyn nhw yn sicr. Pan wnes i ddechrau gofidio y diwrnod cyn y cyfweliad ar gyfer y rôl rydw i ynddi nawr, a phenderfynu fy mod i'n mynd i fethu felly dylwn ganslo, ffoniais Bianca ac fe wnaethon ni drafod y peth. Ar ôl hynny roeddwn i'n teimlo'n well felly penderfynais o leiaf wneud rhywfaint o waith paratoi, a gwnaeth hynny helpu i’m tawelu a newid fy meddwl am y cyfweliad. Gallaf ddweud yn hyderus, heb yr alwad ffôn honno, na fyddwn i wedi cael y swydd hon, a heb sgiliau Bianca, yr ymddiriedaeth y gwnaeth hi ei feithrin gyda mi a'i brwdfrydedd a'i gofal gwirioneddol, na fyddwn i wedi gwneud yr alwad ffôn honno yn y lle cyntaf. Maen nhw’n bobl anhygoel ac roeddwn i eisiau diolch iddynt a dweud fy mod yn gwerthfawrogi popeth maen nhw wedi'i wneud, rhai pethau heb hyd yn oed sylweddoli, i'm cael yn ôl i i fan sefydlog ac i rôl rwy'n frwdfrydig amdani, ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol.”
Os hoffech dderbyn cefnogaeth gan ein tîm, gallwch hunanatgyfeirio neu ofyn i'ch tîm cymorth eich atgyfeirio.