Neidio i'r prif gynnwy

WE:THRIVE Gwasanaeth Lleoliad a Chymorth i Unigolion mewn Gofal Sylfaenol

 

 

 

Croeso i dudalen WE:THRIVE.  

Dyma eich porth i ddarganfod pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Yma, fe gewch wybodaeth gynhwysfawr am ein rhaglen arloesol sy'n cynnig gwasanaethau cymorth cyflogaeth i wella lles unigolion sydd â heriau iechyd meddwl a chorfforol. 

Archwiliwch ein gwefan i ddysgu mwy am ein cenhadaeth, ein gwerthoedd, ac effaith drawsnewidiol ein gwasanaethau. Darganfyddwch sut rydym yn grymuso unigolion i gyflawni eu nodau galwedigaethol, lleihau stigma, a hyrwyddo adferiad trwy bartneriaethau cydweithredol ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth. P'un a ydych chi'n chwilio am gefnogaeth, â diddordeb mewn cymryd rhan, neu'n chwilfrydig i ddysgu mwy, fe gewch chi adnoddau gwerthfawr a mewnwelediadau yma yn y gwasanaeth WE:THRIVE. 

 

Grymuso Lles Trwy Adferiad Holistaidd ac Ymgysylltiad Galwedigaethol Cynhwysol 
(Wellbeing Empowerment Through Holistic Recovery and Inclusive Vocational Engagement) 

 

Caerdydd yw’r awdurdod lleol mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru, ac mae data’n dangos cyfraddau uchel o symptomau iselder a diweithdra. Mae angen dybryd i gefnogi unigolion sydd â heriau iechyd meddwl a chorfforol i gael cyflogaeth gystadleuol. Mae atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn benodol wedi cynyddu ers y pandemig, gan nodi galw sylweddol am ymyriadau sy'n hyrwyddo canlyniadau galwedigaethol. 

Mae darparu gwasanaeth WE:THRIVE yn cefnogi’n llawn y pum egwyddor datblygu cynaliadwy (tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Mae'r cynnig hefyd yn cyd-fynd â chynllun strategol BIPCAF Llunio Ein Llesiant i'r Dyfodol. 

 

 

Dilynwch ni