Mae'r Gwasanaeth Rhanbarthol Haematoleg ac Oncoleg Bediatreg i Blant a Phobl Ifanc rhwng genedigaeth ac 20 oed yn cael ei ddarparu o Ysbyty Plant Cymru ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae ganddo gyllideb flynyddol o dros £2.5m, gyda chostau staff anfeddygol o £1.4m. Mae'r uned yn darparu gwasanaeth lefel uchel lawn i blant a'u teuluoedd ar draws y cyfan o Dde a Chanolbarth Cymru, gan gynnwys Cas-gwent a Mynwy, ac mae'n un o'r 17 Canolfan Haematoleg/Oncoleg Bediatreg Arbenigol UKCCSG ledled y Deyrnas Unedig.
Mae gan yr uned drefniadau gofal a rennir â chanolfannau eraill ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen radiotherapi, trawsblaniadau mêr esgyrn, triniaeth ar gyfer retinoblastoma a llawfeddygaeth ar gyfer malaenedd orthopedig. Cynhelir clinigau allgymorth i blant o ganolbarth a gorllewin Cymru.
Mae'r Uned yn darparu ardal i gleifion mewnol o 16 gwely, uned ddydd gydag 8 gwely - Ward yr Awyr - a chyfleuster cleifion allanol - Ward y Gofod.
Ffôn: Ward y Gofod (Clinig Cleifion Allanol) 029 2074 8805
Ffôn: Ward yr Awyr Ward (Cleifion Mewnol a Gofal Dydd) 029 2074 8802