Cludo Thalasemia Beta (Fe'i gelwir hefyd yn 'bod â nodwedd thalasemia beta')
Mae prawf DNA wedi dangos eich bod yn cario thalasemia beta. Dyma esboniad byr.
- Mae cludwr thalasemia beta yn berson iach.
- Ni fydd cludo thalasemia beta yn eich gwanhau yn gorfforol nac yn feddyliol.
- Gallwch fwyta'r hyn rydych chi ei eisiau a gwneud unrhyw fath o waith rydych chi'n ei ddewis.
- Nid oes angen unrhyw driniaeth feddygol arnoch oherwydd eich bod yn ei gludo