Os yw prawf gwaed wedi dangos eich bod yn cludo hemoglobin S, dyma esboniad byr.
- Mae cludwr hemoglobin S yn berson iach.
- Ni fydd cludo hemoglobin S (crymangelloedd) yn eich gwanhau yn gorfforol nac yn feddyliol.
- Gallwch chi fwyta'r hyn rydych chi ei eisiau a gwneud unrhyw fath o waith rydych chi'n ei ddewis.
- Nid oes angen unrhyw driniaeth feddygol arnoch oherwydd eich bod yn ei gludo