Mae'n bwysig yfed digon o hylifau tra'ch bod yn yr ysbyty i'ch atal rhag dadhydradu
Dylech godi o'r gwely a cherdded cyn gynted ag y bydd eich cyflwr yn caniatáu. Bydd hyn yn gwella llif y gwaed yn y gwythiennau.
Mae rhai cleifion yn elwa o wisgo hosanau, yn enwedig ar ôl llawdriniaeth.
Dylai'r rhain gael eu gwisgo trwy'r amser rydych chi'n ansymudol ond dylid eu tynnu o leiaf bob dydd i wirio nad yw'r croen oddi tano yn enwedig ar y sawdl yn mynd yn ddolurus, ac i ganiatáu ymolchi.
Efallai y bydd rhai cleifion nad ydynt yn gallu gwisgo hosanau yn derbyn cyff i'w wisgo, a gaiff ei lapio o amgylch eu troed neu eu coes isaf.
Mae gwrthgeulyddion yn feddyginiaethau sy'n lleihau gallu eich gwaed i ffurfio ceuladau. Wrth wneud hynny, gallant gynyddu'r siawns y bydd gwaedu yn digwydd, felly nid yw'n driniaeth addas i bawb.
Mae heparin yn wrthgeulydd sydd fel arfer yn cael ei roi drwy bigiad dyddiol bach o dan y croen ar eich bol.
Ar gyfer rhai cyflyrau, yn enwedig amnewid clun a phen-glin, efallai y cewch bresgripsiwn am dabledi i'w cymryd er mwyn atal ceuladau gwaed rhag ffurfio.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.