Cludo Thalasemia Alffa Plws (Fe'i gelwir hefyd yn 'bod â nodwedd thalasemia alffa plws')
Mae prawf DNA wedi dangos eich bod yn cludo thalasemia alffa. Dyma esboniad byr.
	- Mae cludwr thalasemia alffa yn berson iach.
 
	- Ni fydd cludo thalasemia alffa yn eich gwanhau yn gorfforol nac yn feddyliol.
 
	- Gallwch fwyta'r hyn rydych chi ei eisiau a gwneud unrhyw fath o waith rydych chi'n ei ddewis.
 
	- Nid oes angen unrhyw driniaeth feddygol arnoch oherwydd eich bod yn ei gludo.