Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Poen Cronig

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig opsiynau asesu a thriniaeth arbenigol yn ein gwasanaeth dan arweiniad ymgynghorydd trwy ddull cyfannol o ymdrin â chyflwr poen cronig sy'n canolbwyntio ar y claf, gan ddefnyddio model asesu biopseicogymdeithasol. Gwneir cynlluniau tymor hir mewn partneriaeth â'r claf, eu gofalwyr a'u meddyg teulu gan obeithio lliniaru effaith y cyflwr ar eu bywyd bob dydd, gweithgareddau, hwyliau, cwsg a chysylltiadau.

Defnyddir ystod o wasanaethau gan gynnwys ffisiotherapi, seiciatreg, clinigau dan arweiniad nyrsys (Qutenza a Neuromodulation) a'r Rhaglen Rheoli Poen.

Mae apwyntiadau cleifion allanol yn cynnwys asesiadau o'u cyflwr, addysgu'r claf ac egluro opsiynau triniaeth a allai gynnwys pigiadau neu gymorth corfforol neu seicolegol pellach.

Mae'r cyflyrau rydyn ni'n cynnig triniaethau ar eu cyfer yn cynnwys:

  • Poen cronig sy'n eilaidd i arthritis.
  • Cleifion nad ydynt yn ffit i gael llawdriniaeth neu lle nad yw llawdriniaeth wedi gweithio gan gynnwys amnewid cymalau.
  • Poen myofascial.
  • Poen yn yr wyneb neu niwralgia - gan gynnwys niwralgia trigeminaidd.
  • Poen pelfig yn yr abdomen.
  • Poen asgwrn cefn gan gynnwys poen cefn isel, poen gwddf, poen thorasig, poen niwropathig, poen cronig ôl-lawfeddygol, syndrom poen rhanbarthol cymhleth a phoen canser, ac ati.
Dilynwch ni