Mae clinigau cleifion allanol yn cael eu cynnal yn y mannau canlynol:
Ysbyty Athrofaol Cymru | Dydd Llun, Mercher, Iau a bore Gwener |
Ysbyty Llandochau | Dydd Mawrth, Mercher, a bore Gwener |
Gofynnir i gleifion gyflwyno eu hunain i'r ddesg dderbynfa yn y clinig ddeng munud cyn eu hamser apwyntiad i lenwi ffurflenni asesu a hefyd i ddod â rhestr o'u meddyginiaethau cyfredol gyda nhw.
Os nodir triniaethau achos dydd a thriniaethau pigiad, derbynnir cleifion i'r Uned Lawfeddygol Ddydd yn Ysbyty Llandochau.