Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Poen (Acíwt)

Nod y Gwasanaeth Rheoli Poen Acíwt yw sicrhau bod cleifion â phoen acíwt yn cael eu rheoli'n briodol o fewn amgylchedd y claf mewnol.

Mae lleddfu poen yn hynod o bwysig oherwydd gall effeithiau andwyol poen acíwt heb ei leddfu fod yn seicolegol, yn ffisiolegol ac yn economaidd-gymdeithasol. Felly, trwy wasanaeth dan arweiniad nyrsys, ein nod yw ymateb yn effeithlon, gan gynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol yn yr ysbyty. 

Yr hyn a ddarparwn

  • Gwybodaeth arbenigol.
  • Cyswllt rhwng ystod o weithwyr iechyd proffesiynol i optimeiddio rheoli poen.
  • Asesiad o boen.
  • Dulliau soffistigedig o leddfu poen (epidwral, PCA, NCA, opioidau intrathecal, blociau anesthetig lleol ac ati).
  • Rheoli cleifion â phroblemau rheoli poen cymhleth e.e. cleifion â goddefgarwch opioid oherwydd defnydd opioid tymor hir, cleifion â phroblemau camddefnyddio cyffuriau a sylweddau, cleifion â phoen cronig sy'n datblygu problemau poen acíwt.
  • Prosiectau archwilio ac ymchwil.
  • Cefnogaeth i gleifion a'u teuluoedd.
  • Rhoi gwybodaeth.
  • Addysg amlddisgyblaethol (o fewn y Bwrdd Iechyd a lleoliadau allanol).

Lleoliadau

Gwasanaeth poen
Adran Anestheteg
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Rhif ffôn: 029 2074 5449 

Gwasanaeth poen
Dwyrain 5
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Ffordd Penlan
Penarth
CF64 2XX
Rhif ffôn: 029 2071 5020

 

Dilynwch ni