Nod y Gwasanaeth Rheoli Poen Acíwt yw sicrhau bod cleifion â phoen acíwt yn cael eu rheoli'n briodol o fewn amgylchedd y claf mewnol.
Mae lleddfu poen yn hynod o bwysig oherwydd gall effeithiau andwyol poen acíwt heb ei leddfu fod yn seicolegol, yn ffisiolegol ac yn economaidd-gymdeithasol. Felly, trwy wasanaeth dan arweiniad nyrsys, ein nod yw ymateb yn effeithlon, gan gynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol yn yr ysbyty.
Lleoliadau
Gwasanaeth poen
Adran Anestheteg
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Rhif ffôn: 029 2074 5449
Gwasanaeth poen
Dwyrain 5
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Ffordd Penlan
Penarth
CF64 2XX
Rhif ffôn: 029 2071 5020