Neidio i'r prif gynnwy


Fel arfer, gallwch dreulio amser gyda’ch anwylwyd ar y ward neu’r uned, yn syth ar ôl iddo farw.

Yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae ystafell lle gallwch weld eich perthynas neu ffrind; mae’r ystafell hon wrth ymyl y corffdy. Ni ellir gwarantu hyn bob amser ac os ydych chi eisiau defnyddio’r ystafell, bydd angen i chi ofyn am apwyntiad.

Yr oriau agor arferol yw rhwng 9.00am a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ond yr amseroedd a ffefrir yw rhwng 1.30pm a 3.30pm. I wneud apwyntiad yn ystod oriau’r swyddfa, ffoniwch aelod o staff yn y corffdy a byddant yn trefnu dyddiad ac amser sy’n gyfleus i bawb: 029 2184 4269.

Y tu allan i oriau, ffoniwch: 029 2184 7747 a gofynnwch i’r aelod o’r Switsfwrdd gysylltu â Rheolwr y Safle. Nid oes cyfleusterau gweld yn ein safleoedd eraill ar hyn o bryd, ffoniwch staff y corffdy os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch. Cofiwch y gallwch hefyd weld eich anwylyd unwaith y byddant yng ngofal y trefnydd angladdau.