Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi Meinweoedd ac Organau

Gall rhoi meinweoedd fod yn bosibilrwydd ar ôl i’ch perthynas neu ffrind farw. Mae’n rhodd wych a gall newid bywydau’r derbynwyr yn sylweddol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu rhoi eu cornbilennau (rhan o’r llygad). Gall hyn ddigwydd hyd at 24 awr ar ôl marwolaeth a gall adfer golwg dau berson drwy drawsblaniad y gornbilen. Mae tynnu meinwe yn cael ei wneud gyda’r gofal a’r parch mwyaf. Nid yw’n eich atal rhag ffarwelio nac yn effeithio ar drefniadau angladd.

Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â rhoi meinweoedd ar gael yma:

About tissue donation - NHS Organ Donation

Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â rhoi organau ar gael yma:

40 eiliad - NHS Organ Donation

Fel arall, ffoniwch 0300 123 23 23 i gael rhagor o wybodaeth am roi organau neu feinweoedd.


Rhodd i Ymchwil Feddygol:

Os oedd eich ffrind neu berthynas yn dymuno rhoi eu corff i ymchwil feddygol, dylech gysylltu â’r Adran Anatomeg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn gynted â phosibl ar: 029 2087 4370 a gallant ddweud wrthych beth sydd angen digwydd nesaf

Mae’n hanfodol eu bod wedi llofnodi’r gwaith papur angenrheidiol yn ystod eu bywyd, gan egluro mai dyma yw eu dymuniad a bod eu llofnod wedi cael ei dystio.

Dilynwch ni