Neidio i'r prif gynnwy

Post-Mortem yn yr Ysbyty

Weithiau bydd y meddyg trin neu deulu person sydd wedi marw yn dymuno cael post-mortem i gael gwybod mwy am yr hyn sydd wedi arwain at ei salwch neu farwolaeth. Gallai hefyd helpu wrth ofalu am gleifion yn y dyfodol.

Os yw’r perthynas agosaf yn sicr nad oedd gan yr ymadawedig unrhyw wrthwynebiad i’r archwiliad pan oedd yn fyw; gall lofnodi’r ffurflen gydsynio. Nid yw bob amser yn angenrheidiol i archwilio’r corff i gyd a gellir cwblhau post-mortem cyfyngedig, ond gallai hyn gyfyngu ar y canfyddiadau.

Nid oes yn rhaid i chi gael post-mortem yn yr ysbyty, a’ch dewis chi yw a fydd hyn yn cael ei gynnal ai peidio.

Mae’r archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal gyda chydymdeimlad, ac yn gyffredinol ni ddylai oedi trefniadau angladd. Dywedwch wrth y trefnydd angladdau bod yr archwiliad hwn yn cael ei gynnal. Yna anfonir yr adroddiad at y Meddyg Ymgynghorol a oedd yn gofalu am eich perthynas; gall gymryd wythnosau lawer, neu fisoedd hyd yn oed, i’r adroddiad hwn gael ei gwblhau.

Dilynwch ni