Fel ffordd o helpu i leddfu rhywfaint o’r straen sy’n gysylltiedig â’r broses weinyddol, mae Cofrestryddion Cyngor Caerdydd yn cynnig gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, a ddarperir ar adeg cofrestru’r farwolaeth. Mae hyn yn trosglwyddo gwybodaeth i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau cynghorau lleol. Os defnyddir y gwasanaeth, efallai y gallant ddweud wrth rai o’r sefydliadau canlynol:
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr
- Canolfan Byd Gwaith
- Cynllun Pensiwn Rhyfel
- Cyllid a Thollau EF
- Budd-dal Plant
- Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith
- Swyddfa Budd-dal Tai
- Swyddfa Budd-dal y Dreth Gyngor
- Tai Cyngor
- Y Dreth Gyngor
- Llyfrgelloedd
- Bathodynnau Glas
- Y Gwasanaeth Etholiadol
- Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
- Y Gwasanaeth Pasbort