Ni allwch gofrestru marwolaeth na chael Tystysgrif Marwolaeth yn yr ysbyty. Ar gyfer marwolaethau yn Ysbyty Athrofaol Cymru; gellir cofrestru’r farwolaeth yn:
Cardiff Register Office
King Edward VII Avenue
City Hall
Cardiff
CF10 3ND
Ffôn: 029 2087 1684
Ar gyfer marwolaethau yn Ysbyty’r Barri, Ysbyty Dewi Sant neu Ysbyty Athrofaol Llandochau; gellir cofrestru’r farwolaeth yn:
Vale of Glamorgan Register Office
Civic Offices
Holton Road
Barry
CF63 4RU
Ffôn: 01446 700111
Os ydych yn byw mewn ardal wahanol, mae’n bosibl cofrestru marwolaeth gyda Chofrestrydd sy’n lleol i chi. Cysylltwch â’r Cofrestryddion am ragor o wybodaeth.
Mae’n ofyniad cyfreithiol i gofrestru’r farwolaeth o fewn pum diwrnod gwaith i’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth gael ei chyflwyno gan yr ysbyty. Bydd y cyfnod hwn yn cael ei ymestyn os caiff y farwolaeth ei chyfeirio at Wasanaeth y Crwner.
Pwy all gofrestru marwolaeth:
- Rhywun oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
- Cynrychiolydd o’r sefydliad/ysbyty lle digwyddodd y farwolaeth
- Y person sy’n cyfarwyddo’r trefnydd angladdau.
Bydd y Cofrestrydd yn rhoi tystysgrif (a elwir yn ffurflen werdd). Bydd y trefnydd angladdau yn gofyn am hon er mwyn rhoi’r awdurdod iddo barhau â’r trefniadau ar gyfer yr angladd. Byddwch yn derbyn Tystysgrif Marwolaeth; codir ffi am gopïau. Mae’n bosibl y bydd angen copïau arnoch ar gyfer banciau, cymdeithasau tai, cwmnïau yswiriant, cyfreithwyr neu ar gyfer hawlio pensiynau ac ati.