Neidio i'r prif gynnwy

Mynd Adre ar ol Genedigaeth

Dyma ychydig o wybodaeth bwysig am fynd adref gyda'ch babi ar ôl yr enedigaeth.

Ar ôl i chi gael eich rhyddhau, rydym yn eich annog i gysylltu â ni dros y ffôn os oes angen cymorth a chyngor pellach arnoch:

Bydwragedd Cymunedol (8.30am-6pm) 02920745030 

Uned dan Arweiniad Bydwragedd (24 awr) 02920745196 

Galw Iechyd Cymru 111 

House and garden Y dyddiau nesaf 

Cyn i chi gael eich rhyddhau o'r ysbyty, bydd eich bydwraig yn trefnu naill ai galwad ffôn, ymweliad cartref neu apwyntiad clinig ar gyfer y diwrnod canlynol.  Dyma'r prif apwyntiadau gan fydwragedd cymunedol: 

- Diwrnod cyntaf adref ar ôl yr enedigaeth 
- Diwrnod 3-4 - Pwyso’r babi (babanod sy’n bwydo ar y fron yn unig) 
- Diwrnod 6-8 - Bydd y fydwraig yn sicrhau eich bod chi’n iawn ac yn pwyso’r babi.  Trafodir Sgrinio Smotyn Gwaed Babanod Newydd-anedig.  
 
Bydd pob teulu yn cael niferoedd gwahanol o ymweliadau yn dibynnu ar yr angen, a bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi pan gewch eich rhyddhau ac eto yn ystod y cyfarfod cyntaf â'ch bydwraig gymunedol. 
 
Gallwch barhau i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon drwy ffonio’r rhifau ar frig y ffurflen hon a gallwn ddarparu cyngor ychwanegol neu apwyntiadau ôl-enedigol yn ôl y gofyn. 
 
Bydd eich Ymwelydd Iechyd lleol yn cysylltu â chi oddeutu wythnos ar ôl yr enedigaeth i drefnu eich apwyntiad ymwelydd iechyd cyntaf rhwng 10-14 diwrnod.  Bydd trafod y wybodaeth berthnasol am frechlynnau  a bydd yn argymell eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu i gofrestru eich babi a threfnu eu harchwiliad 6 wythnos ar ôl geni. 

A woman sitting and reading a book Eich corff ar ôl genedigaeth 

Bydd llawer o newidiadau i’ch corff ar ôl genedigaeth.  Dyma rywfaint o wybodaeth y GIG am beth sy'n newidiadau arferol a phryd i ofyn am gyngor pellach.
 
Os ydych chi'n 25 oed neu'n hŷn a heb gael prawf ceg y groth yn ystod y 3 blynedd diwethaf - bydd angen i chi drefnu apwyntiad gyda’ch meddygfa. Fel arfer, mae'n cael ei wneud 12 wythnos ar ôl yr enedigaeth. Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am sgrinio serfigol.

Baby asleep on the moon Cysgu'n Ddiogel 

Mae cyngor ar gysgu’n ddiogel gan y Lullaby Trust yn rhoi camau syml ar sut i roi babanod i gysgu’n ddiogel er mwyn lleihau'r risg o syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS) sy'n cael ei alw’n gyffredin yn farwolaeth yn y crud. 

Mae babanod newydd yn fach a bregus.  Dyma ychydig o wybodaeth gan yr NSPCC am sut i ddal babanod yn ddiogel.

Exclaimation mark Sylwi ar Arwyddion o Salwch gyda'ch Babi 

Gall clefyd melyn fod yn gyffredin ac fel arfer mae'n ddiniwed i fabi. Fodd bynnag, mewn achosion prin iawn gall achosi cymhlethdodau.  Darllenwch y ddolen hon i gael gwybodaeth ddefnyddiol  

Mae'n gallu bod yn anodd dweud pryd mae babi'n ddifrifol wael, ond y prif beth yw ymddiried yn eich greddf.  Dyma ychydig o wybodaeth am arwyddion difrifol o salwch. (Pwysig - beidio â rhoi pharacetamol neu ibuprofen i fabanod newydd oni bai ei fod wedi ei ragnodi gan feddyg)

Certificate Cofrestru Genedigaeth Eich Babi 

Rhaid gwneud hyn cyn bod eich babi'n 6 wythnos oed (42 diwrnod).  Cliciwch ar y dolenni ar gyfer eich ardal am ragor o wybodaeth. 

Swyddfa Gofrestru Caerdydd 
Swyddfa Gofrestru'r Fro

Bydd angen i chi hefyd gofrestru eich babi newydd gyda'ch meddygfa cyn gynted â phosibl. 

Mother holding a baby Bwydo'ch babi 

Rydym yma i'ch cefnogi chi yn eich dewisiadau ar fwydo'ch babi.  Mae digon o gyngor i'w ddarllen ar wefan y Breastfeeding Network ac mae hwn yn fideo gwych i'w wylio ynglŷn â sut i osod eich babi ar y fron.  Rydym yn cynnal grwpiau cymorth cymunedol ar gyfer bwydo ar y fron y mae croeso i chi fanteisio arnynt, ac mae Cynorthwywyr Gofal Cymunedol (MCA) medrus ar gael y rhan fwyaf o ddiwrnodau i roi cymorth bwydo ar y fron ychwanegol yn eich cartref eich hun. 
 
Gwybodaeth am ddiheintio unrhyw offer a chyfarwyddiadau ar sut i fwydo’n ddiogel gan ddefnyddio fformiwla.

Edrychwch ar y canllaw ysgarthion hwn i weld a yw eich babi’n bwydo'n effeithiol.

A head with a heart shape Gofalu am eich iechyd meddwl 

Mae bod yn feichiog yn ddigwyddiad mawr yn eich bywyd ac mae'n naturiol teimlo llawer o emosiynau gwahanol. Dyma wybodaeth bellach am ofalu am eich iechyd meddwl gan y GIG a MIND

Calendar Dulliau atal cenhedlu 

Gall ffrwythlondeb ddychwelyd yn gyflym iawn ar ôl yr enedigaeth, bydd y ddolen hon  yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddulliau atal cenhedlu ar ôl cael babi. 

Footprints Profion Sgrinio i'ch Babi 

Caiff yr Archwiliad Corfforol i Fabanod Newydd-anedig ei wneud cyn i'ch babi fod yn 72 awr oed. 
 
Sgrinio Clyw Babanod Newydd-anedig  Mae un neu ddau fabi ym mhob 1000 yn cael eu geni â cholled clyw a allai effeithio ar ddatblygiad eu lleferydd. Mae'n bosib y bydd y prawf clyw hwn yn cael ei wneud yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty ar ôl yr enedigaeth, neu o fewn 4 wythnos mewn clinig cymunedol. 
 
Sgrinio Smotyn Gwaed Babanod Newydd-anedig yw enw’r broses i gymryd sampl fach o waed o sawdl y babi, pan fydd tua wythnos oed. 

A person walking Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis 

Maer Furfflen Fit for Future yn cynnwys gwybodaeth am ymarferion cyhyrau llawr y pelfis ac ymarferion yr abdomen a gynnwys cyngos i helpu mamau newydd ar ol genedigaeth.
 
Gwyliwch y fideos hyn i gael cyngor pellach ar ffisiotherapi yn dilyn genedigaeth.

Am gyngor pellach o't tim ffisiotherapi — Edrychwch ar ein gwefan.

Red Blood Cells Pigiadau Gwrthgeulydd 

Efallai eich bod wedi cael pigiadau ar bresgripsiwn i’w cymryd bob dydd er mwyn lleihau'r perygl o geuladau gwaed ar ôl yr enedigaeth. Bydd eich bydwraig yn dangos i chi sut i wneud hyn ac yn eich helpu chi neu'ch partner i roi’r dos cyntaf. Dyma fideo a thaflen ddefnyddiol i esbonio sut i wneud hyn

Cat and dog Anifeiliaid anwes y teulu 

Mae gan lawer o deuluoedd anifeiliaid anwes fel ci neu gath, gweler y fideos hyn ar  baratoi eich ci neu baratoi eich cath ar gyfer dod â'ch babi newydd adref. 

Rydym yn darparu Ystyriaethau ychwanegol i ddisgrifio eich profiadau ar ôl y geni.  Gallwch gyfeirio drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.

Dilynwch ni