Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth bwydo ar y fron yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

I gael gwybodaeth, cymorth neu gyngor ynghylch bwydo ar y fron, mae croeso i chi fynychu unrhyw un o’n grwpiau cymorth bwydo ar y fron yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae grŵp cymorth bwydo ar y fron yn amgylchedd cydweithredol lle gall mamau a phartneriaid rannu profiadau a darparu cefnogaeth ac anogaeth i’w gilydd. 

Mae grwpiau a drefnir gan y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd yn cael eu harwain gan nyrsys staff cymunedol a nyrsys meithrin cymunedol sydd wedi’u hyfforddi. Yn ogystal, ceir grwpiau cymorth gan gymheiriaid a arweinir gan wirfoddolwyr hyfforddedig. 

Gall grwpiau cymorth bwydo ar y fron helpu gydag anawsterau y gallech fod yn eu hwynebu a galluogi mamau sy’n bwydo ar y fron i rannu profiadau a chysylltu â rhieni eraill. 
 

Grwpiau cymorth bwydo ar y fron a arweinir gan y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd 

Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Gogledd Caerdydd 
Eglwys Efengylaidd St Mark’s, Heol y Gogledd, CF14 3BL 
Dydd Iau, 10am – 12pm 

Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron y Barri a’r Fro
Canolfan i Deuluoedd Dechrau'n Deg, Heol Gladstone, CF63 1NH 
Dydd Mercher, 10am – 12pm 

Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Dinas Powys 
Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys, Fairoaks, The Murch, CF64 4QN 
Dydd Llun, 10am – 12pm (ac eithrio gwyliau banc) 

Cymorth Arbenigol 

Gall menywod gysylltu â’u hymwelydd iechyd am gyngor a chymorth. Bydd menywod sydd angen cymorth arbenigol yn cael eu hatgyfeirio at y Tîm Arbenigol Bwydo Babanod sy’n cynnal clinig wythnosol ac yn cynnig ymweliadau cartref. 

Os cewch eich atgyfeirio at Dîm Arbenigol Bwydo Babanod y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd, efallai y cewch gynnig ymweliad cartref neu apwyntiad yn y Clinig Bwydo ar y Fron Arbenigol i Fabanod. 

  • Hyb Llesiant Maelfa, Roundwood, Llanedeyrn, CF23 9PF 
  • Dydd Mercher, 1pm – 4pm 
     
Clinigau bwydo ar y fron arbenigol Tîm Seren 

Mae Tîm Seren y Gwasanaeth Mamolaeth yn cynnal clinigau bwydo ar y fron arbenigol wythnosol ar gyfer babanod hyd at 28 diwrnod oed. 

Efallai y cewch gynnig apwyntiad yn y clinig bore Mawrth os cewch eich atgyfeirio gan eich bydwraig, ymwelydd iechyd neu Weithiwr Cymorth Seren. Gallwch hefyd hunanatgyfeirio drwy anfon e-bost at Seren.cav@wales.nhs.uk

  • 9am – 12.30pm (apwyntiad yn unig) a 1pm – 3pm (galw heibio) yn Ganolfan Gristnogol Woodville, Heol Crwys, CF24 4ND 
  • Dydd Gwener — 1pm – 3pm (galw heibio) yn Ysbyty Dewi Sant (Canolfan y Plant), Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, CF11 9XB 
  • Dydd Sul — 12pm – 4pm (galw heibio) yn Glinig Cyn Geni, Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, CF14 4XQ 
     
Cymorth Cymheiriaid a Llinellau Cymorth
  • National Breastfeeding Helpline — 0300 100 0212

  • Association of Breastfeeding Mothers
  • La Leche League — 0345 120 2918
  • Cymorth Bwyta o'r fron (Bengali/Sylhettui) — 03004562421
  • Grŵp Cymorth Cymheiriaid Baby Latte Penarth yn Crepe Escape Penarth (Mercher 10-11am). Gwiriwch y dudalen Facebook i sicrhau bod gwirfoddolwr ar gael.
  • Grŵp Cymorth Cymheiriaid Stay and Play Busy Bees, Canolfan Beacon, Harrison Drive, St Mellons CF3 0PJ (Dydd Iau 9.30am-11am term amser yn unig)
Dilynwch ni