Bydd gwasanaeth ChatHealth yn cau ar 29 Awst 2025. Tan hynny, bydd ein horiau'n newid:
- O 16 Mehefin 2025 ymlaen, bydd y gwasanaeth ar agor rhwng 12:30pm a 4:30pm
- Ym mis Gorffennaf ac Awst, bydd y gwasanaeth ar agor rhwng 12:00pm a 2:00pm
Os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch, gallwch ffonio GIG 111 Cymru Pwyswch 2. Mae'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn ar gael 24/7, 7 diwrnod yr wythnos ac mae'n cynnig cyngor, arweiniad a chymorth brys.
Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor, canllawiau ac adnoddau ar les emosiynol ac iechyd meddwl yn cavyoungwellbeing.wales.
Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar Parentline.
Mae ChatHealth yn wasanaeth neges destun sydd wedi'i anelu at bobl ifanc 11-19 oed. Datblygwyd a chefnogwyd ChatHealth gan Ymddiriedolaeth GIG Partneriaeth Swydd Gaerlŷr yn 2013 a cafodd ei lansio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg gan y Tîm Nyrsio Ysgolion yn 2019.
Gall helpu gyda nifer o faterion gan gynnwys:
Dechreuwch trwy anfon neges destun i 07520 615 718 (codir tâl ar eich cyfradd rhwydwaith safonol am negeseuon testun). Byddwch wedyn yn cael eich cysylltu â nyrs ysgol a all gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth cyfrinachol.
Mae’r gwasanaeth yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30am – 4.30pm (ac eithrio gwyliau banc). Dylech dderbyn ymateb o fewn 24 awr, ond os byddwch yn anfon neges y tu allan i'r oriau hyn, byddwch yn derbyn neges awtomataidd yn cynnig amrywiaeth o fanylion cyswllt ar gyfer sefydliadau eraill
Mae ChatHealth yn ddienw, yn ddiogel ac yn gyfleus. Caiff pob cwestiwn ei ateb gan ChatHealth. Dim ond un neges sydd ei hangen i ddechrau gwneud gwahaniaeth.
Os oes angen cyngor iechyd brys arnoch, ewch i GIG 111 Cymru neu ffoniwch 111. Os bydd argyfwng, ffoniwch 999.