Mae Pediatreg Gymunedol a’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyflwyno system ceisiadau presgripsiwn electronig ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Mae'r broses electronig newydd hon wedi cymryd lle’r system archebu dros y ffôn i symleiddio a gwella'r broses, gan gynyddu effeithlonrwydd a hwylustod i rieni a gofalwyr. Gofynnwn yn awr i bob rhiant a gofalwr ddefnyddio’r platfform ar-lein i ofyn am bresgripsiynau ar gyfer eich plentyn o leiaf 7 diwrnod cyn i’r feddyginiaeth gyfredol ddod i ben.
Sut i wneud cais am bresgripsiynau ar-lein:
Ewch i'n porth ar-lein diogel.
Llenwch y wybodaeth ofynnol a chyflwyno’ch cais.
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i’ch cais am bresgripsiwn gael ei brosesu. Byddwch yn derbyn neges destun pan fydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu, dewch â cherdyn adnabod (ID) wrth gasglu’r presgripsiwn.
Os ydych yn glaf yng Nghaerdydd, bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu o Ganolfan Plant Dewi Sant.
Os ydych yn glaf yn y Fro, bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu o Ganolfan Plant Llandochau.
Rydym yn deall y gallai’r newidiadau hyn godi rhai cwestiynau neu bryderon i chi ac mae ein tîm yma i’ch cynorthwyo drwy gydol y cyfnod pontio hwn. Os cewch unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio'r system ceisiadau presgripsiwn electronig newydd ffoniwch 02921 836789.