Ein nod yw rhoi'r ansawdd bywyd gorau posibl i blant a phobl ifanc, er bod eu bywydau'n cael eu byrhau efallai. Byddwn yn eu cefnogi nhw, ac yn cefnogi'r rhai sy'n gofalu amdanynt, boed hynny yn y cartref neu'r ysbyty.
Efallai bydd y gofal hwn yn ofynnol o adeg y diagnosis neu adeg cydnabod y gall bywyd plentyn neu berson ifanc gael ei fyrhau. Gall hwn fod yn gyfnod o ansicrwydd mawr i deuluoedd, ac rydym yn gweithio gyda nhw drwy gydol yr amser hwn i ddarparu'r gofal gorau posibl.
Defnyddiwn ddull gofalu cyfannol, sy'n golygu y gallwn roi cymorth emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol yn ogystal â bodloni unrhyw anghenion corfforol.
Gall y gofal hwn gynnwys meithrin lles plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, cysylltu â'r gweithwyr proffesiynol perthnasol i sicrhau parhad gofal, darparu gofal uniongyrchol o ran rheoli symptomau drwy ymweliadau clinig a chartref, sefydlu cynlluniau gofal uwch i gofnodi gofal diwedd oes a hyrwyddo gofal profedigaeth i aelodau teulu ar yr adeg briodol.
Gellir atgyfeirio i'r gwasanaeth hwn unrhyw blant neu bobl ifanc hyd at 19 oed sydd â symptomau sy'n cyfyngu ar fywyd neu y tybir y byddant yn byrhau bywyd. Mae hyn yn cynnwys babanod heb eu geni a babanod newydd-anedig y rhagwelir iddynt fywydau byr o symptomau anodd.
Yn ystod oriau swyddfa
Cysylltwch ag un o'r ysgrifenyddion gofal lliniarol dros y ffôn neu mewn e-bost:
Bydd Lisa neu Jodie yn cofnodi manylion y claf ac yn cyfeirio'r alwad at yr aelod priodol o'r tîm meddygaeth baediatrig liniarol. Mae'r naill neu'r llall neu'r ddwy ohonynt fel arfer ar gael yn ystod oriau swyddfa.
Y tu allan i oriau swyddfa
Cysylltwch â'r ymgynghorydd sydd ar alwad mewn meddygaeth baediatrig liniarol drwy'r switsfwrdd yn YAC 029 2074 7747. Mae trefn ar alwad Meddygaeth Baediatrig Liniarol yn cael ei chadw gan switsfyrddau yn YAC a Hosbis Plant Tŷ Hafan. Sylwch mai cyngor dros y ffôn yn unig y gallwn ei gynnig y tu allan i oriau swyddfa.
Cymorth i blant a phobl ifanc (hyd at 25 oed), rhieni, gofalwyr a theuluoedd i ailadeiladu eu bywydau pan fydd plentyn yn galaru neu blentyn yn marw.
0800 028 8840
Gofal Profedigaeth Cruse – Caerdydd a'r Fro
Yn darparu llinell wybodaeth leol o gymorth profedigaeth (02920 226166) bob bore Mercher rhwng 10 a 12.
Llinell gymorth genedlaethol: 0808 808 1677
Hope Again – Pobl Ifanc yn Byw wedi Colled
Lle diogel i bobl ifanc ryngweithio ag eraill o'u hoedran hwy, cael cyngor, dysgu technegau ymdopi a chael gwybodaeth am wasanaethau profedigaeth.
Together for Short Lives
Rhaff achub i deuluoedd sy'n gofalu am blant sy'n ddifrifol wael.
Llinell gymorth genedlaethol: 0808 8088 100
Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd